'Torcalonnus': Profiad rhieni o aros blynyddoedd am asesiadau ADHD ac awtistiaeth i'w plant
Mae nifer o rieni wedi dweud bod eu plant wedi gorfod aros am flynyddoedd cyn cael asesiadau diagnosis ADHD ac awtistiaeth yn y gogledd.
Mae rhai teuluoedd yn dweud eu bod wedi gorfod aros am dros dair blynedd am asesiadau, gydag eraill wedi aros hyd at saith mlynedd i gael eu gweld gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Mae Catrin Williams yn fam i fachgen naw oed sy'n byw gyda chyflwr ASD ('Autistic Spectrum Disorder').
"Mae’r system neuro wedi ein siomi ni’n ofnadwy", meddai wrth Newyddion S4C.
Mae ei mab wedi cael diagnosis o ASD ers iddo fod yn saith, ond wedi bod ar y rhestr aros ers iddo fod yn dair oed.
“Ar ôl aros mor hir am ddiagnosis, doedd dim atebion i fy nghwestiynau o ran lle ar y sbectrwm oedd o rag ein upsetio.
“Oni yn fwy blin am hyn gan ein bod wedi aros mor hir… ges i gwpwl o bamffledi i ddarllen a dyne ni rili,” meddai.
Dywedodd bod yr holl brofiad yn “dorcalonnus - yr holl aros a dim atebion... pam ddylse ni orfod paffio dros ein plant?
“Dwi’n gobeithio bydd newidiadau i system neuro er mwyn ni a’n plant”, meddai.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr nad ydi hon yn broblem sy'n unigryw iddyn nhw, ond ei fod yn fater drwy Gymru gyfan.
"Roedd gwasanaethau eisoes dan bwysau ac roedd oedi yn gyffredin cyn hyn. Mae'r galw bellach yn llawer mwy na'r capasiti,” meddai'r Bwrdd Iechyd.
Pedair blynedd o aros
Mae Dawn Cartwright wedi cael gwybod y bydd yn rhaid i’w mab, sydd ym mlwyddyn 6, aros am bedair blynedd cyn cael asesiad ADHD.
Roedd hi wedi gobeithio y byddai wedi cael diagnosis cyn symud ymlaen i’r ysgol uwchradd a hynny “fel bo nhw'n gweld bod 'na reswm bod o methu aros yn llonydd a canolbwyntio, yn lle gael ei labelu fel 'hogyn drwg'”, meddai.
Dywedodd hefyd ei fod yn bwysig iddi fod cymorth ar gael i’w mab “pan mae bob dim yn mynd yn overbearing iddo.”
Mae Iola Wyn yn fam i fachgen saith oed sydd ar y rhestr i gael ei asesu am gyflyrau ADHD ac ASD ers blwyddyn ac yn dal i ddisgwyl.
Mi fydd hi’n ddwy flynedd o aros erbyn mis Ebrill 2025. Mae hi’n dweud bod cymorth i deuluoedd ar gael, ond ei fod yn “anodd iawn cael access iddynt heb ddiagnosis cadarn."
Yn ôl Iola Wyn, “tydi'r GIG ddim yn derbyn pob asesiad preifat, ac mae’r rheiny tua £1000-5000 i bob plentyn.”
Dywedodd bod y sefyllfa yn un “dorcalonnus, ac yn anodd i’r teulu cyfan.”
Ychwanegodd ei bod hithau wedi cael ei labelu yn “blentyn bywiog a siaradus”, ac wedi cael diagnosis o ADHD ers iddi fod yn 38 oed.
Mynd yn breifat
Dywedodd Catrin Lliar Jones ei bod wedi gorfod mynd yn breifat er mwyn cael diagnosis ASD ar ôl gweld y byddai ei merch wedi gorfod aros dros dair blynedd ar gyfer asesiad gan y Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd Catrin fod y rhwydwaith o gefnogaeth oedd ar gael yn arferol yn yr ysgol dan ei sang ac wedi eu gorlwytho ar ôl y pandemig. Doedd “dim digon o staff ac arbenigedd o fewn yr ysgol” er mwyn ymdopi â’r rhestr aros meddai.
Mae ei merch wedi bod yn cael ei haddysg adref ers 2021, ac roedd hynny’n golygu nad oedd modd iddi symud yn gyflym ar y rhestr.
Dywedodd Catrin fod y gost o fynd yn breifat yn “codi ofn” arni, ond ei bod yn teimlo fel nad oedd ganddi ddewis.
'Gwerth pob ceiniog'
Ar ôl mynd yn breifat, dywedodd Catrin: “Mi oedd o’n anhygoel. Gwerth bob ceiniog. Dwi ddim yn difaru dim.
“Mae o wedi newid bywyd y ferch, mae o wedi newid ein bywyd ni, mae wedi bod yn validating iawn - mae ‘di rhoi llwybrau ‘mlaen i ni nad oedd ddim ar gael o’r blaen a ‘da ni jysd yn deall hi gymaint gwell rŵan a deall pam bo hi’n diodda, a deall y pethau sy’n gwneud ei bywyd hi’n anodd.”
“Mae ‘na lawer o bwysau ar wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc… mae ‘na bobl wedi gorfod dysgu ar eu traed a dysgu ar y swydd achos bod y pandemig wedi codi cymaint o broblemau iechyd meddwl a phryderon mewn pobl ifanc nad oedd yna o’r blaen.”
“Dw i wedi cael cymaint o sgyrsiau yn ystod y broses gyda phobl broffesiynol yn y maes, sy'n gwaredu’r diffyg adnoddau ar gael a'r straen sydd ar y system.”
Dywedodd Sarah Murphy, gweinidog Iechyd Meddwl Cymru, wrth bwyllgor plant y Senedd wythnos ddiwethaf fod 20,770 o blant yn aros am asesiad niwroddatblygiadol drwy Gymru ym mis Medi 2024.
“Yr asesiad rydyn ni wedi’i gael gan Weithrediaeth y GIG yw ein bod ni’n mynd i weld rhwng 41,000 a 61,000 o bobl yn aros am yr asesiadau hyn erbyn mis Mawrth 2027.”
Ychwanegodd: “Mae’r asesiadau’n golygu llawer i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.”
'Angen cymorth ar deuluoedd'
Wrth ymateb i'r pryderon, dywedodd Liz Fletcher, un o gyfarwyddwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth Newyddion S4C: “Rydym yn cydymdeimlo’n llwyr â theuluoedd sydd o dan bwysau oherwydd eu bod yn ceisio deall anghenion plentyn niwroddargyfeiriol.
“Mae'n bwysig pwysleisio bod yna sefydliadau partner sy'n gallu darparu cefnogaeth, tra bod plant a'u teuluoedd yn aros am asesiad. Nid oes angen asesiad i gael gafael ar y cymorth a’r gefnogaeth hon - ac nid oes angen asesiad ar gyfer pob plentyn sy’n niwroddargyfeiriol,” meddai.
“Mae angen cymorth ar deuluoedd ar gyfer anghenion y plentyn unigol. Nid yw'r asesiad yn datrys y materion hynny. Felly dylai teuluoedd ddefnyddio’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael os ydynt yn teimlo bod eu plentyn ei angen.”
Targed
Mae gan Lywodraeth Cymru darged o 80% o blant a phobl ifanc yn cael asesiad o fewn 26 wythnos.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i leihau amseroedd aros a chynyddu'r gefnogaeth cyn-ddiagnostig i bobl ag ADHD, Awtistiaeth a chyflyrau niwrowahanol eraill.”
“Rydyn ni wedi buddsoddi £12 miliwn i helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio i fynd i’r afael ag amseroedd aros drwy ein Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth, ac ym mis Tachwedd cyhoeddwyd £3 miliwn i dorri arosiadau hir ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol i blant.”
Llun: PA