Cyngor sir yn y gogledd yn argymell cau menter sy'n cyflogi pobl ag anableddau
Mae adroddiad gan Gyngor Sir Ddinbych yn argymell cau menter sy'n cyflogi pobl ag anableddau.
Cafodd Cefndy Healthcare yn y Rhyl ei sefydlu bron i 50 mlynedd yn ôl, fel cartref i bobl ag anableddau, cyn datblygu i weithgynhyrchu nwyddau.
Erbyn hyn mae'r fenter, sy'n cael cefnogaeth ariannol gan Gyngor Sir Ddinbych, yn cynhyrchu ystod eang o gymhorthion byw.
Ond yn dilyn adolygiad o'i sefyllfa ariannol, bydd y cyngor yn cyflwyno pum opsiwn i'r cabinet ddydd Mawrth ar gyfer dyfodol y fenter.
Yn ôl adroddiad gan Ann Lloyd, pennaeth gofal cymdeithasol oedolion a digartrefedd y cyngor, dylai'r cabinet ddewis yr opsiwn i gau Cefndy Healthcare.
Dywedodd mai dyma'r "unig opsiwn hyfyw i Cefndy Healthcare fel gwasanaeth o fewn gofal cymdeithasol i oedolion a digartrefedd".
Bydd y broses o gau'r fenter a diswyddo ei 29 aelod o staff – sy'n cynnwys 22 ag anableddau – yn costio tua £880,000, meddai.
Mae'r adroddiad yn nodi y byddai modd ariannu rhan o'r broses drwy fanteisio ar "gyfle i werthu'r safle i Grŵp Llandrillo Menai".
"Mae'r grŵp yn edrych i ehangu a buddsoddi yn y Rhyl a bydd yn caniatáu i ni wrthbwyso costau'r cau gydag incwm o werthu'r safle," meddai'r adroddiad.
Heriau ariannol
Er bod Ms Lloyd wedi argymell cau'r fenter yn ei adroddiad, bydd pum opsiwn yn cael eu cyflwyno i gabinet y cyngor.
Maen nhw'n cynnwys: gwneud dim byd; buddsoddiad gan y cyngor; lleihau'r gweithlu; model cyflenwi amgen; neu gau'r fenter.
Daw'r adroddiad ar ôl i aelod o staff y fenter alw ar Gyngor Sir Ddinbych i ailystyried eu cynlluniau i'w chau ar ddechrau mis Hydref.
Dywedodd Michelle Davies, 59, o Abergele, bod y fenter wedi "gwneud llawer o dda yn y gymuned" a'i bod yn "fwy na gweithle".
Mae Cefndy Healthcare yn dweud eu bod yn cynnig cyflogaeth "ystyrlon gyda thâl da" i bobl ag anableddau.
Ond mae'r fenter wedi wynebu heriau ariannol dros y flwyddyn ddiwethaf ar ôl i un o'u cleientiaid mwyaf fynd i'r wal.
Os bydd y cabinet yn penderfynu cau'r fenter, mae'r adroddiad yn nodi y bydd staff yn cael cefnogaeth i ddatblygu eu sgiliau a dod o hyd i swyddi newydd.