Teulu'r fenyw olaf o Gymru i gael ei chrogi yn galw am bardwn amodol

Ruth Ellis

Mae teulu'r fenyw olaf gafodd ei chrogi ym Mhrydain wedi gofyn am bardwn amodol iddi.

Cafodd Ruth Ellis, oedd yn dod o’r Rhyl, ei chrogi ym mis Gorffennaf 1955 ar ôl iddi ladd ei chyn gariad, David Blackley, oedd yn yrrwr rasio.

Ond roedd y berthynas yn un dymhestlog a threisgar.

Mewn rhaglen ddogfen newydd ar S4C, mae ei theulu yn dweud na ddylai hi fod wedi colli ei bywyd am yr hyn a wnaeth.

"Mae hi yn llofrudd ond doedd hi ddim yn haeddu cael ei thynnu o'r byd hwn yn y ffordd y digwyddodd," meddai ei hŵyr Stephen Beard.

Plentyndod

Fe gafodd Ruth Ellis ei geni yn Y Rhyl yn un o chwech o blant. Ond ar ôl tair blynedd, fe symudodd y teulu i Lundain ar ôl i'w thad golli ei waith. Doedd ei phlentyndod ddim yn un hawdd.

"Mae chwaer Ruth Ellis yn deud eu bod nhw yn cael eu cam-drin yn rhywiol ac yn emosiynol gan y tad. Mae 'na drasiedïau teuluol. Mae 'na golli plant, colli aelodau o'r teulu. Mae o yn fywyd anodd," meddai'r hanesydd Dr Mari Elin Wiliam yn y rhaglen Ruth Ellis: Y Cariad a’r Crogi.

Mae'r rhaglen yn olrhain bywyd cynnar Ruth Ellis tan y llofruddiaeth a'r hyn ddigwyddodd iddi wedyn trwy gyfweliadau a chlipiau archif.

Image
Stori o 'drasiedi' yw hon medd Lee Haven Jones sydd wedi cyfarwyddo drama am fywyd Ruth Ellis
Stori o 'drasiedi' yw hon medd Lee Haven Jones sydd wedi cyfarwyddo drama am fywyd Ruth Ellis 

Yn 16 oed, fe syrthiodd mewn cariad hefo aelod o awyrlu Canada ac yn ddiweddarach, roedd hi''n disgwyl babi. 

Er i'r dyn addo y byddai yn ei phriodi, fe aeth yn ôl adref at y teulu a oedd ganddo yn barod yng Nghanada.

Fel mam ifanc sengl yn yr 1950au, roedd hi yn "bopeth doedd cymdeithas ddim yn fodlon ei dderbyn," meddai'r cyfarwyddwr Lee Haven Jones, sydd wedi gwneud drama am ei bywyd. 

Statws

Erbyn y 50au roedd hi'n hostess mewn clwb nos cyn iddi ddod yn rheolwraig clwb nos The Little Club yn Llundain. Roedd hi wedi gwahanu oddi wrth ei gŵr, deintydd oedd yn gaeth i alcohol, ac yn byw gyda'i merch a'i mab yn Llundain.

Yn ôl Dr Mari Wiliam, roedd Ruth Ellis yn fenyw oedd eisiau gwella ei statws mewn cymdeithas, a defnyddio ei hedrychiad fel rhywun deniadol oedd y ffordd i wneud hynny.

"Dwi'n meddwl bod hwnna yn nodwedd bwysig iawn pan 'da ni yn edrych ar Ruth Ellis. Mae 'na rwbath blaengar amdani. Ma hi isio sefyll ar ei thraed ei hun," meddai.

Yn fuan wedyn fe wnaeth hi gyfarfod â David Blackley. Er bod y berthynas ar y dechrau yn un gariadus fe drodd yn un dreisgar llawn cenfigen gyda'r ddau yn gweld pobl eraill.

"Mae 'na ffin denau rhwng angerdd a thrais a fi'n credu wnaethon nhw gamu ochr draw i'r ffin yna," meddai Lee Haven Jones. 

Cymdeithas 'ddim am faddau iddi'

Ar Sul y Pasg 1955, fe saethodd Ruth Ellis David Blackley bedair gwaith yn ei gefn. Y gred yw bod dyn arall yr oedd Ruth wedi cysgu ag o, Desmond Cussen wedi rhoi y gwn iddi a'i gyrru at David.

Er ei bod hi wedi dioddef blynyddoedd o gam-drin, doedd y gyfraith ar y pryd ddim yn cydnabod hynny fel rhan o'i hamddiffyniad. Dim ond deuddydd wnaeth yr achos bara gyda'r rheithgor yn cymryd 14 munud i ystyried y ddedfryd.

"Doedd cymdeithas byth yn mynd i faddau iddi hi. Yn dod o'r oes mae'r meddylfryd oedd 'mai'n haeddu popeth mae'n cael y butain.' 

"A felly oherwydd hynny doedd na'm byd i feddwl amdano fo a dyna pam bod o mor syfrdanol o fyr," meddai'r cyn farnwr Nic Parry. 

Image
Y cyn farnwr Nic Parry
Yng nghyfnod dedfrydu Ruth Ellis 'oes y dynion' oedd hi meddai'r cyn farnwr Nic Parry 

Fe gafodd ei dedfrydu i farwolaeth ond fe ddechreuodd deiseb i'w hachub rhag y gosb eithaf gyda dros  50,000 o lofnodion ar draws y byd, yn eu plith gan y barnwr yn yr achos, y Cymro, Gwilym Lloyd George, sef yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd.

"Mae 'na dystiolaeth doedd o ddim yn hoffi'r gosb eithaf o ran ei ddaliadau personol. Pan mae'r holl apeliadau yn dod i mewn i achub bywyd Ruth Ellis, mae o yn deud - rhaid i'r gyfraith gymryd ei chwrs," meddai Dr Mari Wiliam.

Cymariaethau heddiw

Yn ôl y rhai sydd yn cael ei holi yn y rhaglen, mae yna gymariaethau rhwng ein cymdeithas ni heddiw ac adeg dedfrydu Ruth Ellis. Mae'r pegynnu barn, meddai Dr Mari Wiliam, yn bodoli rŵan.

“Mae’r patrwm seicolegol hwnnw o ddychwelyd at berthynas greulon, yn anffodus, yn parhau hyd heddiw,” meddai Dr Nia Williams, Seicolegydd o Brifysgol Bangor.

Ar ôl marwolaeth Ruth Ellis fe fuodd yna newidiadau cyfreithiol mawr. Fe gafodd cyfrifoldeb lleiedig (diminished responsibility) ei gyflwyno fel amddiffyniad yn 1957,  ac yn 1965 cafodd y gosb eithaf ei diddymu.

"Da ni mynd i gofio Ruth Ellis fel dynes ddewr, styfnig, penderfynol. Mae 'na reswm arall ei chofio hi. 

"Oherwydd y tristwch mawr iawn yn ei bywyd hi mae 'na newidiadau mawr iawn er gwell wedi bod yng nghyfraith Cymru a Lloegr a hynny oherwydd be ddigwyddodd i Ruth Ellis," meddai Nic Parry. 

Mae rhaglen Ruth Ellis: Y Cariad a’r Crogi i'w gweld ar S4C nos Fawrth, 21 Hydref am 21:00 ac ar alw ar S4C Clic ac iPlayer

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.