Carchar i gyn-arlywydd Ffrainc am gynllwynio i ariannu ymgyrch etholiadol gydag arian gan Gaddafi
Nicolas Sarkozy fydd y cyn-arlywydd cyntaf o Ffrainc i gael ei garcharu wrth i'w ddedfryd pum mlynedd am gynllwynio i ariannu ymgyrch etholiadol gydag arian yr unben Muammar Gaddafi o Libya gychwyn ddydd Mawrth.
Nid yw cyn-arweinydd y wlad wedi cael ei ddedfrydu i garchar ers i arweinydd cydweithredol y Natsïaid yn yr Ail Ryfel Byd, Philippe Pétain, cael ei garcharu am fradwriaeth ym 1945.
Roedd Sarkozy, 70 oed, yn arlywydd Ffrainc rhwng 2007 a 2012 ac fe fydd yn cael ei garcharu yng ngharchar La Santé ym Mharis.
Yn ei gell fe fydd ganddo doiled, cawod, desg a theledu bach. Fe fydd yn cael awr y dydd i wneud ymarfer corff, ar ei ben ei hun.
Fe wnaeth dros 100 o bobl ymgynnull tu allan i'w fila ym Mharis ar ôl i'w fab galw am gymorth iddo cyn iddo gael ei symud i'r carchar.
'Ddim yn ofni'r carchar'
Mae Sarkozy yn parhau i hawlio ei fod yn ddieuog, ac mewn neges ar gyfrwng X, fe ddywedodd "bydd y gwir yn cael ei ddatgelu."
"Gyda nerth cadarn rwy'n dweud [wrth bobl Ffrainc] nad cyn-arlywydd maen nhw'n ei roi yn y carchar - ond dyn dieuog," ysgrifennodd.
"Peidiwch â theimlo trueni drosof, mae fy ngwraig a'm plant wrth fy ochr... ond y bore yma rwy'n teimlo tristwch dwfn dros Ffrainc."
Cafodd y cyn-arlywydd yn ddieuog o dderbyn miliynau gan Muammar Gaddafi yn bersonol, ond fe gafodd yn euog o fod mewn cysylltiad troseddol â dau gynorthwyydd agos, Brice Hortefeux a Claude Guéant - oedd yn siarad â'r Libiaid am ariannu ymgyrchoedd yn gyfrinachol.
Mae Sarkozy wedi apelio'r penderfyniad - ac mae'n ddieuog ar hyn o bryd yn llygaid y llysoedd, ond mae rhaid iddo fynd i'r carchar o ystyried "difrifoldeb eithriadol y ffeithiau".
Mae'r cyn-arlywydd wedi dweud nad yw eisiau unrhyw driniaeth arbennig yng ngharchar La Santé, er ei fod wedi cael ei roi yn yr adran ynysu er ei ddiogelwch ei hun.
Diwedd yr wythnos diwethaf cafodd ei dderbyn ym Mhalas yr Élysée gan yr Arlywydd Emmanuel Macron.
Cyn iddo gyrraedd carchar La Santé, rhoddodd Sarkozy gyfres o gyfweliadau, gan ddweud: "Dydw i ddim yn ofni'r carchar. Byddaf yn cadw fy mhen yn uchel, gan gynnwys wrth gatiau'r carchar."