Mam ddall i ddechrau clwb rhedeg i bobl gyda nam golwg

Mam ddall i ddechrau clwb rhedeg i bobl gyda nam golwg

'Dwi eisiau i bobl arall cael yr un profiadau fi 'di cael'

Mae menyw ddall o Gaerdydd yn mynd ati i ddechrau clwb yn y brifddinas i redwyr gyda nam ar eu golwg.

Mae Naz Khan, sy'n cael ei hadnabod fel 'Naz the Blind Runner' ar ei chyfrifon cymdeithasol, yn fam i ddau o blant ac yn hyfforddwr ffitrwydd sy'n byw gyda'r cyflwr genetig Retinitis Pigmentosa.

Ond nid yw hyn wedi ei rhwystro hi rhag gwneud y pethau mae'n hoffi fwyaf, sef rhedeg a ffitrwydd. 

Yn ddiweddar mae Naz wedi cwblhau hanner marathon Caerdydd - ond nid hon oedd ei ras gyntaf erioed. 

Flwyddyn yn ôl fe wnaeth Naz herio'i hun i '12 hanner marathon mewn 12 mis' i godi arian i'r elusen VICTA sy'n helpu plant ac oedolion ifanc sy'n ddall neu sydd â nam ar y golwg. 

"Roedd yna ddiffyg hyder yn bendant pan ddechreuais i redeg gyntaf."

Mae Naz wedi bod yn rhedeg ers 10 mlynedd ac wedi cwrdd â sawl pherson sy'n cymryd rôl fel rhedwyr tywys ar ei thaith. 

Dywedodd Naz wrth Newyddion S4C. "I mi, dechreuodd gyda mynd allan gyda ffrind o'r ysgol, roedd hi'n fam arall a oedd yn gollwng y plant i ffwrdd ac fe ddywedodd "ti eisiau mynd am rediad?", ac roedd hynny tua 10 mlynedd yn ôl a syrthiais mewn cariad ag e ar unwaith.

"Doeddwn i erioed wedi rhedeg o'r blaen, ac rwy'n caru'r rhyddid a'r teimlad o redeg." 

Wrth gael ei magu gyda nam ar y golwg, dywedodd Naz nad oedd hi erioed wedi cael ei chyflwyno i unrhyw fath o chwaraeon, felly roedd y peth yn rhywbeth hollol newydd iddi. 

Erbyn hyn, mae Naz yn hynod o ddiolchgar i nifer o redwyr tywys sydd yn gwirfoddoli, ac iddi hi, ni fyddai'r hyn mae hi wedi ei gyflawni yn bosibl hebddyn nhw. 

Fe wnaeth Naz gwrdd â Mark, un o'i rhedwyr tywys, trwy gyfaill oedd ganddynt yn gyffredin, ac ers hynny mae Mark wedi bod mewn sawl ras gyda hi, gan gynnwys Hanner Marathon Caerdydd eleni. 

Dechreuodd Mark wirfoddoli fel rhedwr tywys dair blynedd yn ôl.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Wel, dwi wedi bod yn rhedeg ers pan oeddwn i'n 40 oed, nid yn barhaus, ac roeddwn i'n sylwi fy mod i'n mynd yn arafach ac roeddwn i'n chwilio am her newydd mewn gwirionedd."

Fe aeth Mark ar gwrs hyfforddi, a nawr mae'n rhedwr tywys i ddwy fenyw - ac un ohonyn nhw yw Naz. 

"Mae'n ymdeimlad gwych o gyflawniad o helpu rhywun arall," meddai Mark.

Yr wythnos nesaf, fe fydd Naz yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth ffitrwydd Hyrox yn ninas Birmingham. Dyma'r ail gystadleuaeth iddi hi gymryd rhan ynddi ar ôl yr un yng Nghaerdydd y llynedd. 

Dechrau clwb rhedeg yng Nghaerdydd

Mae Naz nawr yn bwriadu dechrau clwb rhedeg yn y brif ddinas 'Cardiff VI Runners', sef clwb rhedeg i bobl ddall a phobl gyda nam ar y golwg o bob gallu.

"Rydw i jyst eisiau iddyn nhw gael lle cymdeithasol lle gallan nhw ddod, a rhedeg. Yn amlwg bydd angen tywyswyr arnom ni, cymaint o dywyswyr â phosibl," meddai Naz.

Ac mae Mark, yn annog pobl i ystyried bod yn rhedwyr tywys.

Ychwanegodd: "Mae'n haws nag yr oeddwn i'n meddwl y byddai mewn gwirionedd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.