Y bil gwahardd rasio milgwn 'ddim yn blaenoriaethu lles anifeiliaid'
Mae 'na bryder nad yw bil i wahardd rasio milgwn yn blaenoriaethu lles anifeiliaid yn sgil "diffyg tystiolaeth glir".
Dywedodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd mewn adroddiad y dylai lles anifeiliaid fod yn brif ystyriaeth mewn unrhyw benderfyniad am rasio milgwn.
Daw'r adroddiad ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno bil i'r Senedd ym mis Medi er mwyn dod â rasio milgwn i ben yng Nghymru.
Er bod y bil yn ceisio gwahardd rasio milgwn ar sail lles anifeiliaid, daeth y pwyllgor i'r casgliad bod y dystiolaeth yn "anghyflawn" ac yn "ddadleuol".
Os caiff y bil ei basio, byddai'r gwaharddiad yn cael ei gyflwyno'n raddol rhwng Ebrill 2027 ac Ebrill 2030.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n adolygu'r argymhellion ac yn ymateb maes o law.
'Nid dyna’r ffordd o wneud cyfraith dda'
Dywedodd Delyth Jewell AS, cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Senedd, bod angen i Lywodraeth Cymru gasglu mwy o dystiolaeth.
"Rydym i gyd yn cytuno bod rhaid i les anifeiliaid fod yn brif flaenoriaeth mewn unrhyw benderfyniad ynghylch rasio milgwn, ond mae diffyg tystiolaeth glir wedi gwneud y gwaith o graffu ar y bil yn anoddach," meddai.
"Gofynnwyd i ni graffu ar fil gyda thystiolaeth anghyflawn a dadleuol, ac o fewn amserlen fyrrach.
"Nid dyna’r ffordd o wneud cyfraith dda. Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cymryd mwy o amser i gasglu data cadarn ac ymgynghori’n eang."
Clywodd aelodau'r pwyllgor ddadleuon am y risgiau o anafiadau a marwolaethau ar y trac, a phryderon am les y milgwn.
Roedden nhw'n cynnwys anafiadau a marwolaethau parhaus er gwaethaf rheoleiddio, a heriau lles y tu hwnt i rasio, gan gynnwys pwysau ailgartrefu.
Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad cynhwysfawr o'r effeithiau economaidd a chymdeithasol cyn i'r bil ddod i rym, gan hefyd alluogi cyhoeddi canllawiau statudol ar orfodi a sicrhau adnoddau digonol ar gyfer awdurdodau lleol.
Dylai'r llywodraeth hefyd fonitro canlyniadau anfwriadol posibl, meddai'r adroddiad, gan gynnwys rasio dros y ffin ac effeithiau ar gapasiti ailgartrefu.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Hoffem ddiolch i'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol am ei adroddiad. Byddwn yn adolygu'r argymhellion yn ofalus ac yn ymateb maes o law."