Keir Starmer yn ne Cymru i lansio strategaeth tlodi plant

05/12/2025
S4C

Fe fydd Syr Keir Starmer yn ymweld â de Cymru ddydd Gwener er mwyn lansio strategaeth newydd Llywodraeth y DU ar dlodi plant.

Mae'r strategaeth yn gobeithio cynnig gwell mynediad at ofal plant a rhoi'r diwedd ar deuluoedd yn aros mewn llety gwely a brecwast y tu hwnt i'r terfyn cyfreithiol.

Dywed y llywodraeth y bydd y strategaeth yn rhoi "dechrau da mewn bywyd" i bob plentyn.

Mae nifer o faterion yn ymwneud â thlodi plant wedi eu datganoli, ond mae 200,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi - a 4.45 miliwn mewn tlodi yn y DU.

Dywedodd Syr Keir Starmer fod mynd i'r afael â'r mater yn "genhadaeth foesol i mi" a disgrifiodd y strategaeth fel un sy'n "gosod cwrs newydd ar gyfer adnewyddu cenedlaethol, gyda chyfleoedd bywyd plant wrth ei chalon".

Mae disgwyl y bydd yn cyfarfod â theuluoedd a phlant yn ne Cymru ddydd Gwener, ochr yn ochr â Phrif Weinidog Cymru Eluned Morgan, i siarad â'r rhai sy'n debygol o elwa o'r strategaeth.

Effaith economaidd

Dywedodd Llywodraeth y DU fod methu â mynd i'r afael â thlodi plant yn dal yr economi yn ôl, gyda phobl ifanc sy'n tyfu i fyny yn yr amgylchiadau hyn yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith pan fyddant yn hŷn.

Dywedodd y Biwro Plant Cenedlaethol ei fod eisiau gweld “targedau penodol ar gyfer gostyngiadau pellach mewn tlodi plant dros 10 mlynedd ond yn anffodus mae’r lefel hon o uchelgais ar goll”.

Bydd y cam i ddileu’r terfyn dadleuol ar fudd-daliadau dau blentyn o fis Ebrill y flwyddyn nesaf – a gyhoeddwyd yn y Gyllideb yr wythnos diwethaf – yn arwain at ostyngiad o 450,000 o achosion o dlodi plant erbyn 2029/30 ar gost o £3 biliwn medd y Llywodraeth.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn dweud bod cyfuno mesurau eraill fel cyflwyno prydau ysgol am ddim yn ehangach yn golygu mai effaith gyffredinol ei strategaeth fydd codi 550,000 o blant allan o dlodi erbyn 2030.

Dywedodd y Llywodraeth mai’r strategaeth newydd yw’r “cam cyntaf ar ein ffordd i ddod â thlodi plant i ben.” 

Mae Child Poverty Action Group wedi croesawu hyn ond yn galw am fwy o weithredu.

Dywedodd prif weithredwr y grŵp, Alison Garnham, er y bydd cael gwared ar y terfyn budd-dal dau blentyn ac ehangu prydau ysgol am ddim “yn gwella bywydau plant ledled y wlad”, rhaid i’r Llywodraeth “nawr adeiladu ar y momentwm hwn i gyflawni newid mwy pendant i blant”.

Dywedodd Save the Children UK fod y strategaeth yn cynnwys “mesurau beiddgar i wella plentyndod – nid mesurau dros dro y gorffennol.”

Dywedodd elusen Cymdeithas y Plant: “Os cânt eu cyflawni’n llawn, mae gan yr ymrwymiadau a wnaed heddiw botensial gwirioneddol i drawsnewid bywydau plant.”

'Siomedig'

Wrth ymateb i strategaeth Llywodraeth y DU, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Waith a Phensiynau, Ann Davies AS: “Mae strategaeth i fynd i’r afael â thlodi plant wedi bod yn hir-ddisgwyliedig, ond mae’r hyn y mae Llywodraeth Lafur y DU wedi’i gyhoeddi heddiw ymhell o fod yn ddigonol i gyrraedd yr hyn sydd ei angen.

 “Mae Keir Starmer bellach yn dathlu dileu’r cap dau blentyn, ond treuliodd 16 mis mewn grym yn ei gadw yn ei le, gan ddadlau y byddai ei ddileu yn anghywir a hyd yn oed yn tynnu’r chwip oddi wrth ASau Llafur a gefnogodd ei ddileu. Does neb yn gwybod beth mae Starmer yn ei gredu mewn gwirionedd, felly bydd teuluoedd yng Nghymru yn cymryd y strategaeth hon gyda phinsied o halen."

 “Dileodd Llafur yng Nghymru dargedau mesuradwy ar dlodi plant, ac mae’r strategaeth newydd hon yn ailadrodd yr un dull. Mae hynny’n siomedig iawn."

Ychwanegodd:  “Mae cyhoeddiad heddiw hefyd yn amwys ynglŷn â sut mae ei gynigion yn rhyngweithio â chyfrifoldebau datganoledig yng Nghymru. Unwaith eto, mae San Steffan yn cyhoeddi polisïau yn gyntaf ac yn poeni am sut maen nhw’n berthnasol i Gymru wedyn. Mae teuluoedd yn haeddu eglurder ynghylch pwy sy’n gyfrifol am eu cyflawni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.