Ynys Môn ar frig rhestr y lle hapusaf i fyw ynddo yng Nghymru
Mae arolwg newydd yn awgrymu mai Ynys Môn yw'r lle hapusaf yng Nghyrmu i fyw ynddo.
Yn ôl yr arolwg gan werthwyr tai Rightmove, y fam ynys yw'r lle ddaeth i'r brig ar restr uchaf y lleoliadau hapusaf yn y wlad i ymgartrefu arni.
Yn ail ar y y rhestr yng Nghymru oedd Trefynwy, gyda Llandrindod, Llandudno a Chaerdydd yn dilyn yn y pum safle uchaf.
Drwy'r Deyrnas Unedig gyfan, Skipton yn Sir Efrog oedd y lle hapusaf un i fyw ynddo medd Rightmove.
Wrth ymateb i'r arolwg, dywedodd Ann Evans Jones, cyfarwyddwr cwmni arwerthu Morgan Evans ar Ynys Môn: “Mae Ynys Môn yn lleoliad prydferth ac mae ganddi gymaint i’w gynnig, gan gynnwys teithiau cerdded arfordirol godidog, traethau hardd ar gyfer ymlacio a gweithgareddau dŵr.”
Cymerodd mwy na 19,500 o bobl ran yn arolwg hapus gartref Rightmove 2025, a oedd yn hunan-ddewisol. Anfonodd Rightmove yr arolwg at bobl ledled Prydain a oedd wedi dewis derbyn ei gyfathrebiadau.
Dywedodd Colleen Babcock, arbenigwr eiddo Rightmove: “Bob blwyddyn mae ein hastudiaeth yn dathlu’r holl bethau gwahanol sy’n ein gwneud ni’n teimlo’n hapus gyda lle rydyn ni’n byw – ein cymdogion, mannau gwyrdd, cael mynediad at wasanaethau pwysig.
“Mae llawer mwy yn mynd i mewn i ddewis ardal i fyw ynddi heblaw’r cartref ei hun.
"Mae bod o fewn cyrraedd i natur a mannau gwyrdd yn dod i’r amlwg yn rheolaidd fel ffactor pwysig i bobl, ynghyd â chael cymdogion cyfeillgar a theimlo y gallwch chi fod yn chi’ch hun go iawn lle rydych chi’n byw.