Arestio dau ddyn arall yn yr ymchwiliad i lofruddiaeth Ian Watkins
Mae dau ddyn arall wedi cael eu harestio yn dilyn marwolaeth y pedoffil a chyn-aelod o'r grŵp Lostprophets, mewn carchar Ngorllewin Sir Efrog.
Roedd Ian Watkins, 48 oed, ac yn wreiddiol o Bontypridd, yn treulio dedfryd o 29 mlynedd yn y carchar am nifer o droseddau rhyw difrifol yn erbyn plant yng Ngharchar Wakefield, sy'n garchar diogelwch categori A, cyn ei farwolaeth ar 12 Hydref.
Mae dau garcharor eisoes wedi ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiadau o ladd Watkins gyda chyllell yn gynharach yn y mis.
Bellach mae dau ddyn 23 a 39 oed hefyd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio, ac mae'r ddau yn parhau yn nalfa'r heddlu.
Dywedodd y Prif Arolygydd James Entwistle o'r Tîm Llofruddiaeth ac Ymchwiliadau Mawr Heddlu Sir Efrog: "Mae ymholiadau helaeth yn parhau mewn perthynas â llofruddiaeth Ian Watkins ac mae'r datblygiadau hyn yn rhan o hynny.
"Mae teulu Ian Watkins yn cael eu diweddaru wrth i'r ymchwiliad fynd yn ei flaen. Fodd bynnag, nid ydym yn rhagweld unrhyw ddatblygiadau uniongyrchol pellach ar hyn o bryd", ychwanegodd.