Cyhoeddi lleoliadau'r bwytai Pizza Hut a fydd yn cau

Pizza Hut

Mae'r gweinyddwyr wedi datgelu lleoliadau'r 68 o fwytiau Pizza Hut a fydd yn cau, ar ôl i'r cwmni sy'n gyfrifol am yr adan Brydeining fynd i'r wal. 

Bydd tri bwyty yng Nghymru yn cau, yn Y Rhyl, Llanelli a Chaerdydd. 

Bydd 11 o safleoedd dosbarthu hefyd yn cau yn Lloegr yn rhan o adrefnu a allai arwain at 1,210 o ddiswyddiadau.  

Penododd perchnogion Pizza Hut, sef DC London Pie y gweinyddwyr ddydd Llun, lai na blwyddyn ar ôl i'r cwmni brynu'r gadwyn o fwytai. 

Ddydd Llun hefyd, cyhoeddodd y cwmni arlwyo Americanaidd Yum! Brands, sy'n berchen ar fusnes rhyngwladol Pizza Hut, eu bod bellach wedi prynu adain y cwmni yn y Deyrnas Unedig.  

Bydd y pecyn yn achub 64 o leoliadau ac yn diogelu swyddi 1,277 o weithwyr.

Dywedodd Nicolas Burquier, rheolwr gyfarwyddwr Pizza Hut yn Ewrop a Chanada: “Nod y cynllun hwn yw diogelu'r profiad ar gyfer ein gwesteion a gwarchod swyddi lle mae hynny'n bosibl.”


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.