40 mis o garchar i ddyn 'treisgar' o Fôn am ymosod ar ei bartner
Cafodd dyn “treisgar a rheolaethol” o Ynys Môn ei garcharu am 40 mis ddydd Mercher ar ôl iddo ymosod dro ar ôl tro ar ei bartner.
Plediodd Justin Harvey, 35 oed, o Dan yr Efail, Caergybi yn euog i ymddygiad rheolaethol ('controlling behaviour').
Dywedodd y Barnwr Timothy Petts yn Llys y Goron Caernarfon fod Harvey wedi bod mewn perthynas ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf roedd wedi troi’n ddyn “treisgar a rheolaethol”.
Fe ddywedodd y ddioddefwraig wrth y barnwr ei bod “wedi ei dallu gan gariad.”
Dywedodd yr erlynydd Elen Owen bod Justin Harvey wedi anafu ei bartner wrth iddo ei thaflu oddi ar wely yn ystod ffrae.
Roedd wedi achosi difrod i'w bysedd oedd yn golygu bod yn rhaid iddi roi'r gorau i weithio yn y diwydiant trin gwallt.
Cafodd ei bys ei dorri ar ôl ymosodiad arall ac fe gafodd hefyd ei thagu a'i dyrnu.
Cafodd Harvey ei arestio ar ôl iddo fynd i mewn i dafarn ac yntau wedi ei gynddeiriogi a'n gafael mewn bat.
Aeth ymlaen i boeri yn ei hwyneb.
Dywedodd y ddioddefwraig Chloe Jenkins wrth y llys fod Harvey wedi ei “difetha” yn ariannol, gan fynnu arian am gyffuriau.
Dywedodd y Barnwr Petts wrth Harvey: “Ychydig iawn o gyfrifoldeb a gymeroch chi am yr hyn a wnaethoch.”
Gosodwyd gorchymyn atal am 20 mlynedd arno gan y llys.