Newyddion S4C

Jane Dodds yn ymddiheuro ar ôl gwneud ‘camgymeriad clir iawn’

ITV Cymru
Jane Dodds

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, wedi ymddiheuro i ddioddefwyr cam-drin rhywiol ar ôl derbyn beirniadaeth am ei hymateb i honiadau pan oedd yn gweithio i Eglwys Loegr.

Dyma’r tro cyntaf iddi siarad ers i arweinydd ei phlaid yn San Steffan, Syr Ed Davey, alw arni i ail-ystyried ei rôl. 

Cyn iddi ddod yn wleidydd, roedd hi’n gweithio fel Swyddog Amddiffyn Plant gydag Eglwys Loegr. 

Dechreuodd rhai feirniadu Jane Dodds pan ddaeth yr eglwys yn destun ymchwiliad, a arweiniodd at ymddiswyddiad Archesgob Caergaint, Justin Welby .  

Yn ôl adroddiad a gafodd ei gyhoeddi yn 2021, fe wnaeth Jane Dodds “gamgymeriad barn difrifol” drwy beidio cynnal cyfarfod i drafod achos cam-drin rhywiol. 

Mewn ymateb i’r adroddiad, dywedodd Syr Ed Davey wrth y BBC y dylai Dodds “ail-ystyried ei chyfrifoldebau”.

Wrth ymateb i hynny ddydd Mawrth ar raglen Sharp End ar ITV Cymru, dywedodd Jane Dodds iddi  “feddwl ac ystyried” ymddiswyddo, ond bod ganddi “gefnogaeth y blaid” wrth arwain ymlaen i Etholiad 2026. 

Dywedodd fod y sefyllfa yn “gamgymeriad” ond ei bod wedi ymddiheuro ar y pryd, ac yn “ymddiheuro rŵan”.

“Mae gen i barch mawr i bawb sy’n dod ymlaen pan maen nhw wedi o ddifrif cael ryw fath o drais ofnadwy, ac mae’n bwysig iawn ein bod ni’n canolbwyntio ar y bobl yna”. 

Nid oes gan y blaid Lafur fwyafrif yn y Senedd, ac maen nhw'n ddibynnol ar un AS arall i bleidleisio o blaid cynlluniau’r gyllideb dros y flwyddyn nesaf. 

Dywedodd Jane Dodds wrth y rhaglen ei bod hi’n “bwysig bod y gyllideb yn cael cefnogaeth ym mis Mawrth”.

Ychwanegodd hi mae ei “blaenoriaethau…yw bod gennym ni wasanaethau gofal a gwasanaethau cyhoeddus”.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.