Newyddion S4C

Tywysoges Cymru'n cyhoeddi ei bod yn glir o ganser

14/01/2025
kate middleton.png

Mae Tywysoges Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn glir o ganser, wrth iddi ddychwelyd i'r ysbyty lle cafodd driniaeth.

Disgrifiodd Kate, mewn neges ysgrifenedig yn dilyn ymweliad ag Ysbyty Brenhinol Marsden yn Chelsea, de-orllewin Llundain, ei “rhyddhad” a dywedodd “mae llawer i edrych ymlaen ato”.

Dyma’r tro cyntaf i Kate ddefnyddio’r gair 'remission' i ddisgrifio ei chyflwr iechyd yn dilyn cyfnod o waeledd.

Cyhoeddodd y dywysoges ym mis Medi y llynedd y byddai'n dychwelyd i ddyletswyddau cyhoeddus wedi iddi gwblhau triniaeth cemotherapi. 

Cyhoeddodd Palas Kensington ym mis Mawrth fod y dywysoges yn derbyn triniaeth am ganser. 

Fe gafodd y canser ei ddarganfod mewn profion a gafodd eu gwneud ar ôl iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen ym mis Ionawr.

“Fel y bydd unrhyw un sydd wedi cael diagnosis o ganser yn gwybod, mae’n cymryd amser i addasu i'r normal newydd.

“Fodd bynnag, rwy’n edrych ymlaen at flwyddyn foddhaol o’n blaenau. 

"Mae llawer i edrych ymlaen ato. Diolch i bawb am eich cefnogaeth barhaus.”

Diolchodd hefyd i’r Royal Marsden am ei gofal “eithriadol” ac am “ofalu mor dda amdanaf”.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.