Ffrae yn y Senedd dros gwestiynau’r Ceidwadwyr ar gangiau grŵmio
Mae’r erthygl yma yn cynnwys manylion all beri gofid.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru wedi wedi derbyn cerydd am ddefnyddio ieithwedd a allai “achosi gwahaniaethu” yn ystod y sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog.
Roedd Darren Millar AS wedi galw am ymchwiliad i weithredoedd gangiau grŵmio yng Nghymru ac wedi dweud ei fod yn “sgandal cenedlaethol” nad oedd y Prif Weinidog, yn ei farn ef, yn ateb cwestiynau ar y pwnc.
Dywedodd Eluned Morgan bod y cwestiynau yn “siomedig” a bod Llywodraeth Cymru wedi deddfu yn 2014 i osod dyletswyddau cyfreithiol ar gyrff i roi gwybod os ydyn nhw’n amau bod plentyn wedi dioddef camdriniaeth.
Roedd cerydd gan y Llywydd Elin Jones a ddywedodd bod cwestiwn Darren Millar yn “or-ddisgrifiadol”.
“Rwy'n meddwl eu bod yn ymylu ar beidio â bod yn gwbl barchus tuag at y dioddefwr ar hyn o bryd,” meddai.
“Felly a allwch chi leddfu’r rhethreg ryw ychydig? Mae angen i’r defnydd o iaith yn y lle hwn wneud yn siŵr eich bod yn cadw’n ddigon pell oddi wrth ennyn unrhyw fath o wahaniaethu neu ysgogi unrhyw fath o wahaniaethu.”
Daeth ei sylwadau wedi i Darren Millar ddweud bod un dioddefwr wedi “ei chrogi, ei bygwth a chyllell... a chafodd ei threisio, mae arna i ofn dweud, dros 1,000 o weithiau”.
‘Bygwth’
Daw cwestiynau Darren Millar yn y Senedd wedi i’r bilwynydd Elon Musk rannu neges ar ei wefan cymdeithasol X oedd yn cyhuddo Cyngor Ffoaduriaid Cymru o ddefnyddio fideos o ferched ifanc i "ddenu" mudwyr i'r DU.
Yn dilyn neges Elon Musk fe wnaeth cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, hefyd ddefnyddio gwefan X i gyhuddo Cyngor Ffoaduriaid Cymru o ddefnyddio pobl ifanc fel "propaganda".
Dywedodd staff yr elusen eu bod nhw wedi wynebu bygythiadau i’w bywydau yn dilyn rhannu'r neges gan Elon Musk, a mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y sylwadau yn "hollol anghyfrifol".
Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei bod hi wedi ei “siomi” gan y sylwadau.
“Mae’n bwysig wrth drafod pynciau sensitif fel hyn ein bod ni’n meddwl yn gyntaf am y dioddefwyr,” meddai.
“Mae’n siomedig bod y pwnc yma’n cael ei droi’n un gwleidyddol i’r pwynt lle mae pobl sy’n gweithio i gyrff dyngarol a phlant mewn ysgolion yn teimlo eu bod nhw wedi eu bygwth.
“A dw i wir yn gobeithio y gallwn ni leddfu’r rhethreg ar y pwynt yma.”