
'Plant wrth eu bodd': Grŵp o’r gorllewin yn galw ar fudiadau i gefnogi ysgol yn Gaza
Mae grŵp o orllewin Cymru yn galw ar fudiadau ar draws y wlad i gefnogi ysgol ar gyfer plant sydd wedi’u dadleoli yn Gaza.
Mae’r grŵp West Wales Friends of Palestine wedi bod yn cefnogi pobl ar y Lan Orllewinol ym Mhalestina ers dros 10 mlynedd.
Ond dros y misoedd diwethaf, mae'r grŵp o Gaerfyrddin wedi bod yn codi arian i gynnal ysgol yn Gaza a gafodd ei sefydlu gyda’u cefnogaeth ym mis Rhagfyr.
Ers ymosodiad Hamas ar Israel ar 7 Hydref 2023, pan laddodd y grŵp tua 1,200 o Israeliaid a chymryd tua 250 o bobl eraill yn wystlon, mae arweinwyr Israel wedi addo dial ar swyddogion Hamas.
Yn y 15 mis ers hynny, mae Israel wedi lladd o leiaf 17,400 o blant yn Gaza, yn ôl awdurdodau Palestina.
Y gred yw bod miloedd o blant eraill ar goll o dan y rwbel, gan gael eu hystyried yn farw.
Ac mae'r plant sydd wedi goroesi, yn ôl yr elusen Unicef, wedi’u dadleoli ac yn byw gyda thrawma.
'Angen dwblu capasati'
Bwriad y grŵp cyfeillgarwch o Gaerfyrddin yw datblygu ysgol ar gyfer plant yn ardal Deir Al-Balah yng nghanol Gaza.
Mae Deir Al-Balah yn ardal sydd bellach yn gartref i filoedd o ffoaduriad, gan gynnwys 300 o deuluoedd sy'n byw mewn pebyll ger yr ysgol.
Ar hyn o bryd, mae Ysgol Sumud - sy’n golygu "dyfalbarhad" yn Arabeg - yn darparu addysg, cwnsela a bwyd i dros 200 o blant tair gwaith yr wythnos.
Mae'r ysgol yn cael ei rhedeg gan athrawon cymwys ar sail wirfoddol.
Yn ôl Sue Davies o'r grŵp, mae angen "dwblu" capasati’r ysgol er mwyn ateb y galw.
"Daeth tua 500 o blant ar y diwrnod yr agorodd yr ysgol," meddai Ms Davies.
"Ond roedden ni ond wedi ymrwymo i ariannu ysgol ar gyfer 50 o blant, felly fe gawson nhw amser anodd iawn.
"Fe wnaethon nhw benderfynu beth fydden nhw’n ei wneud fyddai cael chwe grŵp am dri hanner diwrnod."

Dywedodd Ms Davies bod yr ysgol wedi bod yn "llwyddiannus iawn" hyd yma, gyda'r plant "wrth eu bodd".
"Ond y broblem yw nad yw ein grŵp ni yn codi digon o arian ar gyfer y galw," meddai.
"Mae rhieni'n dod bob dydd yn gofyn pryd mae'r ysgol yn mynd i gael ei hehangu."
Ar hyn o bryd, mae'r grŵp West Wales Friends of Palestine yn codi tua £1,000 y mis i gynnal yr ysgol.
Er mwyn cefnogi mwy o blant, maen nhw'n galw ar fudiadau ar draws Cymru i’w cefnogi.
Y bwriad yw ehangu'r ysgol a buddsoddi mewn mwy adnoddau ar ei chyfer, gan gynnwys pensiliau, llyfrau a desgiau.
'Heddwch a chyfiawnder'
Yn ôl Ms Davies, mae'r grŵp yn teimlo'n ffodus i allu helpu plant yn Gaza.
Ond y gobaith, yn y pendraw, yw y bydd cytundeb ar gyfer cadoediad yn y diriogaeth.
"Rydym yn hapus iawn bod hwn yn grŵp o Gymry lleol yn cefnogi grŵp o Balesteiniaid lleol yn Gaza," meddai.
"Ond ein gobaith ar gyfer y dyfodol yw y bydd cytundeb ar gyfer cadoediad."
Ychwanegodd: "Rydym yn gobeithio am heddwch a chyfiawnder ym Mhalestina."