Newyddion S4C

Clwy'r traed a'r genau: Prif filfeddyg yn galw ar ffermwyr Cymru i fod yn wyliadwrus

Gwartheg

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi annog ffermwyr y wlad i fod yn wyliadwrus ar ôl achos o glwy'r traed a'r genau yn yr Almaen.

Dyma'r achos cyntaf o glwy'r traed a'r genau yn Yr Almaen ers 35 o flynyddoedd.

Cafodd y clefyd ei ddarganfod mewn byffalo dŵr ar fferm yn Märkisch-Oderland, Brandenburg yn nwyrain y wlad ar 10 Ionawr.

Mae mewnforio gwartheg, moch a defaid o'r Almaen bellach wedi cael ei wahardd yn y DU i amddiffyn ffermwyr a'u bywoliaeth.

Bu'n rhaid difa miliwn o wartheg a defaid Cymru oherwydd clwy'r traed a'r genau nôl yn 2001, a chanslo digwyddiadau gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd.

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Richard Irvine, ddydd Mawrth ei fod yn “newyddion anffodus” a’u bod yn gweithio’n galed i “amddiffyn ein da byw” rhag y clwy “dinistriol”.

“Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus,” meddai.”

‘Rheoli risg’

Gallai'r arwyddion clinigol o glwy traed a’r genau gynnwys:

  • gwres uchel:
  •  pothelli ar y croen rhwng y goes a'r carn
  •  pothelli o gwmpas y trwyn, tafod a gwefusau
  • cloffni
  • colli awydd am fwyd

Yn 2007 y cafwyd yr achos diwethaf o glwy'r traed a'r genau ym Mhrydain. 

Dywedodd Richard Irvine fod gan Gymru "gynlluniau wrth gefn cadarn ar waith i reoli risg ac amddiffyn ffermwyr a'n diogelwch bwyd”. 

“Mae hyn yn golygu defnyddio'r holl fesurau i gyfyngu ar y risg o ledaeniad y clefyd dinistriol hwn. Nid yw clefyd y traed a'r genau yn peri unrhyw risg i iechyd neu ddiogelwch bwyd,” meddai.

"Rwyf hefyd am barhau i atgoffa ceidwaid da byw i gynnal y lefelau uchaf o fioddiogelwch a gwyliadwriaeth ac i brynu da byw a chynhyrchion cenhedlu o le cyfrifol a diogel i amddiffyn ein buchesi a diadellau a chadw clefydau anifeiliaid allan o Gymru. 

“Os ydych chi 'n amau clefyd y traed a'r genau, mae'n hanfodol rhoi gwybod am hyn ar unwaith.”

‘Pryder’

Wrth ymateb ddydd Llun i'r datblygiadau diweddaraf yn Yr Almaen, dywedodd Aled Jones, llywydd undeb NFU Cymru bod angen cymryd pob cam posib er mwyn atal y clefyd rhag cyrraedd y Deyrnas Unedig.

"Dylai'r achos hwn o glwy'r traed a'r genau godi ofn ar bob un ffarmwr sy'n cadw da byw,” meddai.

"Rydym yn llwyr gefnogi'r camau sydd wedi cael ei gwneud gan yr awdurdodau yn Yr Almaen, ac yn gobeithio bydd hwn yn golygu bod y clefyd heb ledaenu.

"Y peth pwysicaf yw bod hwn yn nodyn atgoffa i Lywodraeth y DU a'r asiantaethau ffiniau a iechyd gymryd pob cam posibl er mwyn diogelu ein ffiniau rhag mewnforio'r clefyd hwn."

Mae Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud y bydd y datblygiad diweddaraf yn Yr Almaen yn dod ag atgofion yn ôl i ffermwyr yng Nghymru 

“Bydd darganfyddiad diweddar o achosion o glwy'r traed ar genau yn yr Almaen yn destun pryder i ffermwyr da byw ledled Ewrop gyfan," meddai.

"Mi fydd y newyddion wrth gwrs yn ailgynnau atgofion o’r effaith bellgyrhaeddol gafodd y clwy' ar y sector amaeth a chefn gwlad yn ei gyfanrwydd dros ddau ddegawd yn ôl yn 2001, ac mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ein ffiniau’n cael eu diogelu fel nad yw’r clwy' hyn yn cael ei fewnforio i Brydain."

Os oes gennych unrhyw amheuon fod clwy'r traed a'r genau ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.

Llun gan David Cheskin / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.