Newyddion S4C

Cwmni Zip World yn agor safle newydd yn Llundain

Zip World Llundain

Mae'r cwmni gweithgareddau awyr agored o Gymru, Zip World, wedi agor safle newydd yn Llundain.

Bydd safle Zip World London yn agor ym Mharc Olympaidd y Frenhines Elisabeth yn nwyrain Llundain Ddydd San Ffolant. 

Bydd y safle wedi'i leoli ar gerflun yr ArcelorMittal Orbit, a gafodd ei ddylunio'n arbennig ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Yn ôl y cwmni, sy'n hanu o Lanrwst yng Nghonwy, bydd y safle newydd yn Llundain yn cynnig dau weithgaredd.

Dywedodd ZipWorld mai'r prif atyniad yw'r Helix, sef "sleid twnnel hiraf y byd". 

Yn 76m o uchder a 178m o hyd, mae'r sleid yn mynd o amgylch yr ArcelorMittal Orbit 12 o weithiau.

Atyniad arall yw golygfan yr ArcelorMittal Orbit 360, a fydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddringo 80m i dop y cerflun.

'Edrych ymlaen'

Mewn datganiad, dywedodd ZipWorld eu bod yn "edrych ymlaen" at ddatblygu'r safle.
 
"Gyda dros 10 mlynedd o brofiad yn creu anturiaethau rhyfeddol ledled y DU, rydym yn edrych ymlaen at nid yn unig gymryd drosodd gweithrediadau’r lleoliad hwn ond hefyd ei wella ac ychwanegu ato," medden nhw.
 
Mae ZipWorld yn berchen ar wyth safle yng Nghymru a Lloegr.
 
Y safle mwyaf adnabyddus yw Zip World Chwarel Penrhyn ym Methesda yng Ngwynedd.
 
Mae'r safle yn gartref i Velocity, llinell sip gyflymaf y byd, ac atyniadau eraill fel Quarry Karts ac Aero Explorer.
 
Yn Lloegr, mae gan y cwmni eisoes safleoedd ym Manceinion ac Ardal y Llynnoedd.
 

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.