Newyddion S4C

Dros 85,000 o yrwyr wedi eu dal yn torri'r cyfyngiad cyflymder 20mya y llynedd

ITV Cymru
S4C

Fe gafodd dros 85,000 o yrwyr eu dal yn torri'r cyfyngiad cyflymder 20mya yng Nghymru'r llynedd, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Mae ffigurau GanBwyll, sef corff sydd yn ceisio gwneud pobl yn fwy saff ar y ffyrdd, yn dangos bod y mwyafrif o droseddau yng nghanolbarth a de Cymru, gyda'r nifer fwyaf ym mis Awst.

Y cyflymder cyfartalog oedd 28 milltir yr awr, yn ôl GanBwyll.

Dywedodd y corff eu bod wedi dechrau ailgyflwyno gorfodaeth mewn ardaloedd 20mya ym mis Tachwedd 2023. 

Roedd hyn mewn mannau 20mya a oedd eisoes yn bodoli cyn i'r ddeddf newydd gael ei chyflwyno ym mis Medi 2023.

Fe ohiriodd GanBwyll orfodi'r terfyn cyflymder 20mya am gyfnod wedi'r newid cyfraith, gan ddweud bod y penderfyniad wedi'i wneud am sawl rheswm. 

Roedd hyn yn cynnwys rhoi amser i bobl addasu i'r newid, ac i alluogi'r awdurdodau priffyrdd i addasu arwyddion ffyrdd.

Mae’r polisi wedi bod yn ddadleuol ers iddo ddod i rym, gyda bron i 470,000 o bobl wedi llofnodi deiseb i wrthdroi’r gostyngiad yn y terfyn cyflymder.

Ers hynny mae cynghorau wedi cael gwneud rhai eithriadau i gadw'r cyfyngiad cyflymder 30mya ar rai ffyrdd.

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.