Blwyddyn Newydd Dda - dathliadau’r Hen Galan
Blwyddyn Newydd Dda - dathliadau’r Hen Galan
Blwyddyn Newydd Dda! Dyna mae rhai yng Nghymru yn ei ddymuno ddydd Llun wrth i bobl groesawu'r Hen Galan.
Ond beth yw’r Hen Galan?
Er ein bod ni yn arfer dymuno blwyddyn newydd dda i bobl ar 1 Ionawr, mae rhai yn dathlu’r flwyddyn newydd ddydd Llun - sef dathliadau’r hen galan.
I nifer y Calan newydd yw 1 Ionawr, a'r Hen Galan yw 13 Ionawr. Yn 1752 cafodd y Calendr Gregori ei gyflwyno yn lle’r Calendr lŵl.
Roedd pryder y byddai newid y Calendr yn golygu colli 11 diwrnod o’r flwyddyn ac felly penderfynodd nifer i barhau i ddilyn y Calendr lŵl, gan ddathlu’r flwyddyn newydd ar 13 Ionawr.
Beth yw’r traddodiad?
Yn draddodiadol roedd dydd Calan yn ddiwrnod pwysig iawn yng nghalendr y Cymry gyda phobl yn mynd o gwmpas tai'r ardal yn canu neu adrodd rhigwm er mwyn hel calennig, sef arian neu rodd.
Mae'r newid yn y calendr hefyd yn egluro pam fod cyfarfodydd canu plygain yn dal i gael eu cynnal mewn rhai rhannau o Gymru yn y flwyddyn newydd gan eu bod yn draddodiadol yn digwydd yn y cyfnod rhwng y Nadolig a'r hen Galan, 13 Ionawr.
Y Fari Lwyd
Mae’r Fari Lwyd yn symbol o ddathliadau’r Hen Galan, sef penglog ceffyl wedi'i orchuddio â defnydd a rhubanau.
Bydda’r penglog yn cael ei roi ar bolyn ac yna byddai’r person wedi ei orchuddio efo lliain yn agor a chau'r geg.
Ble mae’r Hen Galan yn cael ei ddathlu?
Er bod sawl ardal yng Nghymru yn parhau i ddathlu’r Hen Galan, mae’n draddodiad sydd wedi aros yn Sir Benfro.
Mae pentref Cwm Gwaun, ger Abergwaun yn adnabyddus am groesawu'r Hen Galan ar 13 Ionawr hyd heddiw.
Mae taith Hen Galan Cwm Gwaun yn 18 milltir i gyd, ac yn parhau i fod yn rhan o draddodiadau’r ardal dros yr ŵyl.
Ond mae dathliadau yn cael eu cynnal yn flynyddol mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.