Cyhuddo 11 arall wedi terfysg Trelái
Mae 11 yn rhagor o bobl wedi eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud â'r terfysg yn ardal Trelái, Caerdydd fis Mai 2023.
Ymgasglodd hyd at 150 0 bobl yn yr ardal ar ôl clywed am wrthdrawiad angheuol yn Nhrelái yn gynharach yn y dydd.
Bu farw Harvey Evans a oedd yn 15 oed a Kyrees Sullivan, 16 oed yn y gwrthdrawiad
Cafodd ceir eu difrodi a'u rhoi ar dân, a thân gwyllt eu taflu tuag at yr heddlu yn ystod yr anhrefn yn ddiweddarach .
Cafodd dwsinau o blismyn eu hanafu.
Bydd 10 oedolyn ac un person 17 oed yn ymddangos mewn llys barn ddydd Mercher, 22 Ionawr.
Mae 31 o bobl eisoes wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r anhrefn.