Newyddion S4C

Cyngor Gwynedd yn cyhoeddi cynllun 'cadarn a thryloyw' mewn ymateb i droseddau Neil Foden

Neil Foden.jpeg

Mewn cyfarfod wythnos nesaf fe fydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod cynllun "cadarn a thryloyw" sy’n amlinellu trefniadau sydd ar y gweill i ymchwilio i’r "holl wersi i’w dysgu yn sgil troseddau Neil Foden".

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024 ar ôl camdrin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Roedd Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, Gwynedd.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd y cyngor mai prif amcanion y cynllun fyddai i "gydnabod yn agored a chyhoeddus na ddylai y fath droseddau fyth fod wedi digwydd ac na ddylai yr un plentyn oddef y fath brofiadau."

Y bwriad hefyd oedd i "ymddiheuro yn ddidwyll i’r dioddefwyr a’u teuluoedd am yr hyn y maent wedi gorfod ei ddioddef, a chefnogi'r dioddefwyr, yr ysgol a’r gymuned ehangach i geisio adfer eu sefyllfa."

Dywed y cyngor mai bwriad arall y cynllun fydd i "sefydlu holl ffeithiau yr achos, yr hanes o amgylch y sefyllfa a’r cyd-destun ehangach, ac i ddysgu yr holl wersi a gaiff eu hadnabod fel rhan o gasgliadau ac argymhellion pob ymchwiliad."

Yn olaf, chweched amcan y cynllun fydd i "wella drwy ymateb yn gyflawn a chyflym i bob casgliad ac argymhelliad gyda’r nod o roi hyder i’r cyhoedd fod y Cyngor yn gwneud popeth posib i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto."

Fe wnaeth arweinydd newydd Cyngor Gwynedd, Nia Jeffreys, ymddiheuro i ddioddefwyr Neil Foden wrth iddi gael ei phenodi i'w swydd mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ym mis Rhagfyr.

Fe gamodd arweinydd blaenorol y Cyngor, Dyfrig Siencyn, i lawr yn dilyn beirniadaeth am ei ymateb i waith ymchwil rhaglen deledu i achos y pedoffeil Neil Foden.

Image
Cafodd Neil Foden ei apwyntio yn Brifathro ysgol Friars yn 1997.

Bydd yr Aelodau Cabinet yn ystyried cyfres o argymhellion, gan gynnwys "neilltuo adnodd i sefydlu Bwrdd Rhaglen penodol i gydlynu a sicrhau cynnydd priodol ac amserol i gamau a gweithdrefnau ymatebol."

Bydd y Bwrdd yn cael ei arwain gan berson annibynnol ac yn cynnwys aelodaeth allanol o gyrff megis Swyddfa’r Comisiynydd Plant, Llywodraeth Cymru ac Estyn; yn ogystal a Chadeirydd y Panel Adolygiad Ymarfer Plant.

Argymhelliad arall fydd dan ystyriaeth yw ffurfioli galwad Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru i gynnal Ymchwiliad Cyhoeddus i droseddau Neil Foden.

Os bydd y Cynllun yn cael ei fabwysiadu, bydd y Bwrdd Rhaglen yn adolygu a monitro’r cynnydd yn rheolaidd a bydd Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi y Cyngor yn craffu’r cynnwys.

'Mesur cynnydd'

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae’r Cynllun yn tynnu at ei gilydd mewn un ddogfen y mesurau rydym wedi eu rhoi mewn lle yn barod a’r hyn y byddwn yn ei wneud dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. 

"Bydd hyn yn galluogi cynghorwyr, pobl Gwynedd, y Llywodraeth a’r Comisiynydd Plant i fesur ein cynnydd ac adnabod unrhyw fylchau. Yn ogystal, gan ei bod yn ddogfen fyw, mae hyblygrwydd i’w haddasu yn ôl yr angen."

Dywedodd na fydd y gwaith yn "troi’r cloc yn ôl nac yn dad-wneud yr effaith ar y dioddefwyr, ond mae’n gynllun cadarn a thryloyw sy’n ymateb i sefyllfa wirioneddol erchyll. 

"Ein gobaith yw y bydd y gwaith yma o gymorth i gymuned Ysgol Friars wrth iddynt adfer ac ail-adeiladu ac yn gam ar daith y Cyngor i ymchwilio i’r hyn aeth o’i le a’r gwersi sydd i’w dysgu i’r dyfodol."

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod y cynllun ar 21 Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.