Pryderon yng Nghymru wedi achos o glwy'r traed a'r genau yn Yr Almaen
Mae pryder yn y diwydiant ffermio yng Nghymru oherwydd bod achos o glwy'r traed a'r genau yn Yr Almaen.
Cafodd y clefyd ei ddarganfod mewn byffalo dŵr ar fferm yn Märkisch-Oderland, Brandenburg yn nwyrain y wlad ar 10 Ionawr.
Dyma'r achos cyntaf o glwy'r traed a'r genau yn Yr Almaen ers 35 o flynyddoedd.
Cafodd rhannau o gefn gwlad Cymru eu parlysu bron chwarter canrif yn ôl, oherwydd achosion o glwy'r traed a'r genau.
Cafodd yr achos cynta ar Ynysoedd Prydain ei ddarganfod mewn lladd-dy yn Essex ar 19 Chwefror 2001.
O fewn wythnos, roedd y clwy' wedi cyrraedd Sir Fôn, gyda Phowys a Sir Fynwy ymysg y siroedd a gafodd eu taro waethaf yn ddiweddarach.
Ofn
Wrth ymateb i'r datblygiadau diweddaraf yn Yr Almaen, dywedodd Aled Jones, llywydd undeb NFU Cymru bod angen cymryd pob cam posib er mwyn atal y clefyd rhag cyrraedd y Deyrnas Unedig.
"Dylai'r achos hwn o glwy'r traed a'r genau godi ofn ar bob un ffarmwr sy'n cadw da byw.
"Rydym yn llwyr gefnogi'r camau sydd wedi cael ei gwneud gan yr awdurdodau yn Yr Almaen, ac yn gobeithio bydd hwn yn golygu bod y clefyd heb ledaenu.
"Y peth pwysicaf yw bod hwn yn nodyn atgoffa i Lywodraeth y DU a'r asiantaethau ffiniau a iechyd gymryd pob cam posibl er mwyn diogelu ein ffiniau rhag mewnforio'r clefyd hwn."
Mae'r clefyd wedi taro tri byffalo dŵr mewn gyr o 14, ac fe gafodd pob un eu difa er mwyn ceisio atal y clefyd rhag lledaenu.
Hefyd cafodd 200 o foch ar fferm gyfagos eu difa er mwyn ceisio atal unrhyw ledaeniad pellach.
Mae Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud y bydd y datblygiad diweddaraf yn Yr Almaen yn dod ag atgofion yn ôl i ffermwyr yng Nghymru
“Bydd darganfyddiad diweddar o achosion o glwy'r traed ar genau yn yr Almaen yn destun pryder i ffermwyr da byw ledled Ewrop gyfan," meddai.
"Mi fydd y newyddion wrth gwrs yn ailgynnau atgofion o’r effaith bellgyrhaeddol gafodd y clwy' ar y sector amaeth a chefn gwlad yn ei gyfanrwydd dros ddau ddegawd yn ôl yn 2001, ac mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ein ffiniau’n cael eu diogelu fel nad yw’r clwy' hyn yn cael ei fewnforio i Brydain."