Newyddion S4C

Ymchwilio i farwolaeth ‘annisgwyl’ ar ôl dod o hyd i gorff yn ardal Pwllheli

Hafan Pwllheli

Mae’r heddlu yn ymchwilio ar ôl dod o hyd i gorff dyn 55 oed mewn tŷ yn ardal Pwllheli.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd bod marwolaeth y dyn yn un “annisgwyl”.

Maen nhw’n parhau i ymchwilio i beth achosodd ei farwolaeth ar y cyd â’r gwasanaeth tân, meddai'r llu

“Fe aeth yr heddlu i eiddo yn ardal Pwllheli ddydd Sul 12 Ionawr, yn dilyn adroddiad o farwolaeth annisgwyl dyn 55 oed,” medden nhw.

“Mae teulu’r dyn a’r crwner wedi cael gwybod.

“Rydym yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth ar y cyd â'r Gwasanaeth Tân.”

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod nhw wedi eu galw i'r eiddo am 16.10 ddydd Sul.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.