Cwest yn clywed fod car wedi taro pram babi fu farw yn Sir Benfro
Mae cwest i farwolaeth baban chwe mis oed a fu farw mewn maes parcio yn Sir Benfro wedi clywed bod car wedi gwrthdaro gyda'i phram.
Bu farw Sophia Kelemen o'i hanafiadau yn yr ysbyty ar 3 Ionawr, ddiwrnod wedi'r gwrthdrawiad ar lawr gwaelod maes parcio aml-lawr yn Ninbych-y-pysgod.
Roedd Sophia, ei rhieni Alex a Betty a'i brawd pump oed ar eu gwyliau yn ne Cymru o Leigh, yn ardal Manceinion.
Yn ystod y gwrandawiad cwest yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd ddydd Mawrth, dywedodd dirprwy swyddog y crwner dros Sir Benfro, Carrie Sheridan, bod yr heddlu wedi cael gwybod bod car wedi gwrtharo gyda phram ar lawr gwaelod yr adeilad am 16.04.
Cafodd Sophia Kelemen ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ond bu farw o waedu o'i phenglog (cranial hemorrhage) a gwrthdrawiad â char.
Dywedodd dirprwy grwner ardal Sir Benfro a Sir Gâr, Gareth Lewis, ei fod yn gohirio y cwest "tra'n aros am ganlyniad yr ymchwiliad heddlu."
Mae Flaviu Naghi, 33 oed o Wigan, wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, a gyrru heb yswiriant na thrwydded, ar ôl iddo gael ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad.
Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ar ddydd Sadwrn 4 Ionawr.
Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 7 Chwefror.
‘Mor hapus’
Wrth roi teyrnged i Sophia yr wythnos ddiwethaf dywedodd ei modryb, Adriana Kelemen, sy'n chwaer i dad Sophia, ei bod yn faban "annwyl" a "chwareus."
"Roeddem gyda'n gilydd dros y Nadolig. Prin iawn y byddai Sophia'n crio. Roedd hi mor hapus ac yn gwenu trwy'r amser," meddai.
"Roedd hi'n awyddus i gerdded, ac yn gyffrous, chwareus ac egnïol. Hi oedd y ferch fwyaf ciwt ac annwyl. Mae'n erchyll nad oeddwn wedi cael cyfle i'w gweld yn tyfu fyny a chreu atgofion gyda hi."