Newyddion S4C

Llanpumsaint: Corff dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad wedi ei ddarganfod ar dir capel

Aaron Jones

Mae cwest i farwolaeth dyn o Lanpumsaint, Sir Gâr, mewn gwrthdrawiad wedi clywed bod ei gorff wedi cael ei ddarganfod ar dir capel yn y pentref.

Bu farw Aaron Rhys Jones, 38 oed, ar ôl cael ei daro gan gar tra'r oedd yn cerdded ar ffordd wledig gyda'i gi ddeuddydd cyn y Nadolig.

Yn ystod y gwrandawiad cwest yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd ddydd Mawrth, dywedodd swyddog y crwner dros Sir Gaerfyrddin, Malcolm Thompson, bod car wedi gwrthdaro ag Aaron Jones tua 19.20 ar 23 Rhagfyr wrth Gapel Caersalem wrth iddo fynd a'i gi am dro.

"Methodd y car a stopio," meddai.

Fe wnaeth dyn ddod o hyd i'r ci yn crwydro a rhoi gwybod i wraig Aaron Jones, gan arwain at ymgais i ddod o hyd iddo.

Dywedodd bod yr heddlu wedi comisiynu adroddiad gwrthdrawiad ar y pryd, sydd heb ei gwblhau eto.

Dywedodd dirprwy grwner ardal Sir Benfro a Sir Gâr, Gareth Lewis, ei fod yn gohirio y cwest wrth i ymchwiliadau'r heddlu barhau.

Ddiwrnod yn dilyn marwolaeth Mr Jones, cafodd dyn 27 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, o beidio â stopio wedi gwrthdrawiad ac o fethu ag adrodd fod gwrthdrawiad wedi digwydd.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.