'Methiant parhaus': Cleifion canser 'yn aros yn rhy hir am driniaeth'
Mewn adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth mae'r archwilydd yn nodi bod y trefniadau cydlynu yn genedlaethol wedi cael eu hasesu er mwyn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau canser yng Nghymru.
Yn ôl y ddogfen, er gwaethaf mwy o fuddsoddi, mae "methiant parhaus" i gyrraedd y targed perfformiad cenedlaethol. Y targed yw y dylai 75% o gleifion canser ddechrau eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod.
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda'r GIG er mwyn ceisio cyrraedd targedau.
"Rydym yn canolbwyntio'n llwyr ar weithio gyda’r GIG i wella mynediad at ddiagnosis a thriniaeth fel rhan o'n targed i 75% o'r rhai a gafodd ddiagnosis ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r adeg y tybir bod canser arnynt.
"Rydym hefyd yn adolygu ein trefniadau arweinyddiaeth canser cenedlaethol i ddarparu cyfeiriad cliriach a chryfach ar gyfer gwella gwasanaethau canser."
Methu targed
Mae'r archwilydd yn pwysleisio nad yw'r un bwrdd iechyd wedi cyrraedd y targed ers mis Awst 2020, ac nid yw’r targed erioed wedi'i gyrraedd ar lefel Cymru gyfan.
Yn ôl Archwilio Cymru, gwaethygodd y perfformiad wedi'r pandemig. Mae wedi bod yn sefydlog ers dechrau 2022 gyda rhwng 52% a 61% yn dechrau ar eu triniaeth o fewn yr amser targed.
Mae amseroedd aros ar gyfer rhai mathau o ganser, sef canserau gastroberfeddol is, gynaecolegol ac wrolegol yn arbennig o hir, ac mae rhai cleifion yn aros dros 100 diwrnod i ddechrau triniaeth.
Mae heriau hefyd yn gysylltiedig â bylchau mewn capasiti staffio, medd y ddogfen.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ganlyniadau cadarnhaol gan nodi fod rhaglen sgrinio’r coluddyn genedlaethol wedi ehangu i gynnwys mwy o bobl gan ddefnyddio prawf mwy sensitif.
Mae'n nodi hefyd fod cyfleoedd i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar sgrinio'r fron a sgrinio serfigol ac i wneud penderfyniad am raglen sgrinio'r ysgyfaint genedlaethol.
'Peri cryn bryder'
Mae elusennau a'r gwrthbleidiau yn y Senedd wedi beirniadu Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Hilary Webb, o Blood Cancer UK, fod yr adroddiad “yn amlygu’r angen dybryd am arweiniad cenedlaethol cryfach a chliriach i yrru’r gwelliannau sydd eu hangen”.
“I’r rhai sydd newydd gael diagnosis o ganser yng Nghymru, mae canfyddiadau adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn peri cryn bryder.
“Mae pobl sy’n byw gyda chanser y gwaed, gan gynnwys lewcemia, lymffoma a myeloma, yng Nghymru yn haeddu diagnosis amserol, triniaeth o’r radd flaenaf, a gofal teg – waeth ble maen nhw’n byw na’u cefndir.
Ychwanegodd James Evans AS, ysgrifennydd cabinet cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros iechyd: “O dan Lafur, dim hyd yn oed hanner cleifion canser Cymru sy’n derbyn triniaeth o fewn yr amser targed. Ni all hynny barhau.
“Mae Archwilio Cymru yn glir, ni fydd taflu arian at y broblem yn cyflawni dim."
Wrth ymateb i adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mabon ap Gwynfor AS:
"Mae'r adroddiad hwn yn dditiad damniol o ddiffyg arweinyddiaeth Llafur ar y gwasanaeth iechyd - rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi rhybuddio amdano ers tro. Does dim un bwrdd iechyd wedi cyrraedd targedau triniaeth canser ers 2020, ar unig ymateb gan Lafur yw taflu mwy o arian i'r rheng flaen yn hytrach na meddwl am atebion.
"Mae llawer o'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn yn adleisio cynllun Plaid Cymru ar gyfer gwasanaeth iechyd mwy effeithlon, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.
"Byddwn yn newid sut mae'r gwasanaeth iechyd yn cael ei redeg ac yn gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r rhestrau sydd ar eu huchaf erioed. Ar ôl 25 mlynedd o Lafur, mae'n bryd am ddatrysiadau."
Llun: PA