Newyddion S4C

Mwy eisiau erthyliad wedi dulliau atal cenhedlu naturiol

Beichiogrwydd

Mae "cynnydd sylweddol" wedi bod yn nifer y menywod sy'n gofyn am erthyliad ar ôl defnyddio dulliau atal cenhedlu naturiol, yn ôl astudiaeth newydd.  

Mae'r dulliau naturiol hynny yn cynnwys cadw golwg ar batrymau mislif ar apiau ffonau clyfar.

Roedd y niferoedd a ddywedodd nad oeddent yn defnyddio dulliau atal cenhedlu o gwbl pan ddaethant yn feichiog gryn dipyn yn uwch hefyd, sef cynnydd o 14% rhwng 2018 a 2023.

Mae'r ymchwilwyr yn nodi fod yr agwedd tuag at ddulliau atal cenhedlu wedi newid yn y pum mlynedd ddiwethaf, gyda menywod yn cefnu ar ddulliau hormonaidd “mwy dibynadwy” fel y bilsen ac yn ffafrio dulliau sy'n cadw golwg ar gyfnodau ffrwythlondeb.     

Mae'r dulliau naturiol hynny yn cynnwys cadw golwg ar batrymau'r mislif, arwyddion ofyliad (ovulation) neu dymheredd y corff, gan ddefnyddio apiau ffonau clyfar gan amlaf. 

Mae hynny'n helpu menywod i amcangyfrif pryd mae eu cyfnod ffrwythlon, gyda chyplau yn osgoi rhyw yn ystod y dyddiau hynny er mwyn ceisio atal beichiogrwydd. 

'Llai dibynadwy' 

Ond yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Caeredin, mae'r dulliau hyn yn medru bod yn "llai dibynadwy".  

Ar gyfer yr astudiaeth, cafodd ystadegau eu rhoi gan y British Pregnancy Advisory Service (Bpas) er mwyn darganfod pa ddull atal cenhedlu roedd y menywod yn ei ddefnyddio cyn gwneud cais am erthyliad.  

Fe wnaeth y tîm gymharu dau gyfnod: O Ionawr i Fehefin 2018, a oedd yn cynnwys 33,495  o fenywod, ac Ionawr i Fehefin 2023, a oedd yn cynnwys 55,055 o fenywod.

Roedd y niferoedd a oedd yn defnyddio dulliau naturiol pan ddaethant yn feichiog wedi codi 0.4% yn 2018 i 2.5% yn 2023.

Mae oedran y menywod sy'n defnyddio dulliau naturiol hefyd wedi disgyn o bron 30 oed i 27, yn ôl yr astudiaeth. 

Mae niferoedd y menywod sy'n defnyddio dulliau atal cenhedlu hormonaidd fel y bilsen, y bilsen mini neu glytiau bychain (patches) wedi gostwng o 18.8% yn  2018  i 11.3% yn 2023.

Roedd cynnydd o 56% yn 2018 i 70% yn 2023 yn y niferoedd a gofnododd nad oeddent yn defnyddio unrhyw ddull atal cenhedlu.  

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae angen ymchwil pellach i ddarganfod y rheswm dros y newid arferion.

Er hynny maen nhw'n rhybuddio y bydd " y gostyngiad yn nefnydd dulliau atal cenhedlu effeithiol a chynnydd yn nifer yr erthyliadau yn arwain at oblygiadau ehangach i wasanaethau gofal iechyd.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.