Newyddion S4C

Cyngor Gwynedd i godi naw o dai fforddiadwy ym Morfa Nefyn

Tai morfa

Bydd Cyngor Gwynedd yn bwrw mlaen i godi naw tŷ fforddiadwy newydd ym Mhen Llŷn, wedi i’r datblygiad dderbyn caniatâd gan Bwyllgor Cynllunio Gwynedd yn ei gyfarfod ddydd Iau.

Mae’r datblygiad ym Morfa Nefyn yn rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, sydd â’r bwriad o godi hyd at 90 o dai fforddiadwy i bobl leol brynu neu rentu trwy’r sir. 

Mae galw wedi bod yn y gymuned leol ym Morfa Nefyn ers peth amser am dai fforddiadwy, gyda phrisiau tai yno ymysg y rhai uchaf ym Mhen Llŷn.

Amcan cynllun Tŷ Gwynedd yw creu cartrefi fforddiadwy i bobl leol, yn enwedig i’r rheini sy’n ei chael hi’n anodd prynu neu rentu cartref ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol.

Bydd safle Tŷ Gwynedd Morfa Nefyn yn cynnwys pedwar cartref dwy ystafell wely a phum cartref tair ystafell wely, gyda rhai o’r tai wedi'u cynllunio i fod yn hawdd i’w haddasu i gynnwys mwy o ystafelloedd er mwyn eu gwneud yn gartrefi gydol oes i deuluoedd.

Mae'r datblygiad o dan gynllun Tŷ Gwynedd yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai ehangach gan y Cyngor i fynd i'r afael â'r prinder tai yn y sir a sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at dai fforddiadwy o safon yn eu cymunedau eu hunain, meddai'r cyngor. 

Mae’r cynllun ehangach yn bwriadu darparu dros 1,000 o dai fforddiadwy yn ystod y blynyddoedd nesaf. 

Unwaith y bydd y cartrefi ym Morfa Nefyn wedi eu cwblhau, bydd yn bosib i bobl leol ymgeisio amdanynt trwy Tai Teg, sy’n gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ar gyfer Cyngor Gwynedd.

Image
Morfa Nefyn

Dywedodd Aelod Cabinet dros Dai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Paul Rowlinson: “Dw i’n eithriadol o falch gweld bod y prosiect yma’n symud yn ei flaen a’n bod gam yn nes at weld cartrefi newydd, safonol, fforddiadwy ar y safle yma. 

"Mae dros 80% o drigolion Morfa Nefyn wedi eu prisio allan o’r farchnad dai — cyfran sylweddol sy’n methu prynu cartref yn eu cymuned eu hunain. Mae hyn yn anghyfiawn ac yn amlygu'r angen enfawr am gartrefi fforddiadwy yn yr ardal.

“Un o egwyddorion allweddol cynllun Tŷ Gwynedd ydi ein bod yn adeiladu cartrefi gydag anghenion darpar drigolion yn ganolog iddynt. Bydd modd eu haddasu ar gyfer teuluoedd sy’n tyfu trwy gynyddu nifer y llofftydd. Bydd y cartrefi yn fforddiadwy i bobl leol ac yn ynni-effeithlon, ac felly yn glyd ac yn rhatach i’w cynhesu — nodweddion sy’n hanfodol i gymuned fel Morfa Nefyn.

“Dw i’n edrych ymlaen at weld y safle’n datblygu, a’r effaith gadarnhaol a ddaw yn sgil hyn ar y gymuned ehangach. Dw i’n annog unrhyw un sydd efo diddordeb mewn ymgeisio am un o’r tai i wirio’r meini prawf a chofrestru rŵan trwy Tai Teg.”

'Angen dybryd'

Dywedodd Aelod Lleol ward Morfa Nefyn a Thudweiliog ac Aelod Cyngor Tref Nefyn, y Cynghorydd Gareth Tudor Jones: “Mae angen dybryd am fwy o dai fforddiadwy yn Llŷn, a dw i’n croesawu’r newyddion bod Cyngor Gwynedd wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad yma. Mae Cyngor Tref Nefyn yr un mor falch o weld y prosiect yn symud ymlaen i'r cam nesaf.

“Dyma leoliad delfrydol i adeiladu cartrefi newydd – yn enwedig i deuluoedd ifanc ac unigolion sydd wedi cael eu prisio allan o’r farchnad dai. Mae'r safle mewn lleoliad hynod o gyfleus dros ffordd i faes chwarae penigamp ac o fewn pellter cerdded i Ysgol Morfa Nefyn.

“Yn bwysicaf oll, bydd y prosiect yma’n golygu bod mwy o bobl leol yn cael aros yn eu milltir sgwâr, yn hytrach na gorfod symud i ffwrdd i ddod o hyd i gartref fforddiadwy. Mae’n gam ymlaen i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ein cymunedau gwledig Cymreig.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.