Ymchwilio i farwolaeth dyn 58 oed o Landudno
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n ymchwilio i farwolaeth dyn 58 oed o Landudno.
Cafodd swyddogion eu galw ychydig wedi 10:00 ddydd Llun, 15 Rhagfyr, yn dilyn pryderon am ddiogelwch dyn yn ardal Ffordd Nant-y-Gamar yn y dref.
Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty ond bu farw'n ddiweddarach.
Mae ymholiadau i geisio sefydlu amgylchiadau marwolaeth y dyn yn parhau.
Cafodd dyn lleol ei arestio ar amheuaeth o ymosod mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.