Newyddion S4C

Rhedwr sydd â Syndrom Down yn torri record byd

ITV Cymru 13/01/2025
Michael Beynon

Mae dyn ifanc sydd â Syndrom Down o’r Waun ger Wrecsam wedi ennill gwobr am deithio'r pellter mwyaf ar droed o fewn wythnos.  

Mae Michael Beynon, 29 oed wedi cipio teitl Guinness World Records am ei gamp. Teithiodd 100.17km (62.86 milltir) ar droed drwy redeg neu gerdded. 

Mae'n rhedwr brwd, a dywedodd mai Hanner Marathon Caerdydd oedd ei hoff her, oherwydd y dorf fawr a oedd yn gwylio.

Yn ôl Michael Beynon, mae'n hoff o redeg yn yr awyr iach oherwydd mae’n helpu iddo ymlacio, yn ogystal â’r budd i’w iechyd corfforol a meddyliol.

Yn 2022, cafodd ei anrhydeddu mewn rhaglen ‘Dathlu Dewder’. Fe oedd y rhedwr cyntaf o Gymru sydd â Syndrom Down i gwblhau Marathon Llundain. 

Mae'n defnyddio ei blatfform i gynrychioli gwaith yr elusen ‘Mencap Cymru’, sef elusen sydd yn sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfartal. 

Dywedodd Wayne Crocker, cyfarwyddwr Mencap Cymru: “Dwi’n synnu gyda’r pethau mae Michael wedi gwneud gyda’i fywyd. Dwi wedi 'nabod Michael ers dros ugain mlynedd, ac mae e wastad wedi bod yn hyrwyddwr ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu.”


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.