Tân mewn fflat yng nghanol Y Trallwng
13/01/2025
Tân mewn fflat yng nghanol Y Trallwng
Cafodd criwiau tân eu galw i stryd fawr Y Trallwng ym Mhowys fore Llun wedi i fflat ar ail lawr adeilad tri llawr fynd ar dân.
Cyhoeddodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru iddyn nhw gael eu galw i Stryd Aberriw tua 09.10.
Aeth criwiau o'r Trallwng, Llanfair Caereinion, Trefaldwyn, Llanfyllin a'r Drenewydd yno, yn ogystal â chriwiau tân o Sir Amwythig
Llwyddodd y tîm i ddod o hyd i bawb yn y fflat a chafodd un person driniaeth feddygol yno.
Gadawodd y criwiau'r safle am 12.36 ar ôl diffodd y fflamau.