Nicola Sturgeon a’i gŵr Peter Murrell 'wedi penderfynu dod a’u priodas i ben'
Mae Nicola Sturgeon a’i gŵr Peter Murrell wedi penderfynu dod a’u priodas “i ben”.
Dywedodd cyn Brif Weinidog yr Alban mewn neges ar Instagram eu bod nhw “wedi gwahanu ers peth amser i bob pwrpas”.
Mae Peter Murrell yn gyn brif weithredwr plaid yr SNP.
Mae’r pâr wedi bod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu fel rhan o ymchwiliad ehangach i mewn i gyllideb y blaid.
“Gyda chalon drom, rwy’n cadarnhau bod Peter a minnau wedi penderfynu dod â’n priodas i ben,” meddai Nicola Sturgeon yn ei datganiad ddydd Llun.
“Does dim angen dweud ein bod ni'n dal yn annwyl iawn i’n gilydd, a bydd hynny byth yn newid.
“Ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylw pellach.”
Cafodd Peter Murrell ei gyhuddo ym mis Ebrill 2024 mewn cysylltiad â chamddefnyddio arian yr SNP yn anghyfreithlon.
Cafodd Ms Sturgeon ei holi gan yr heddlu ym mis Mehefin 2023 ond dyw hi heb ei chyhuddo.
Ym mis Rhagfyr, dywedodd Ms Sturgeon nad yw hi'n gwybod "dim mwy" am yr ymchwiliad nag oedd hi pan gafodd ei harestio.