Newyddion S4C

Dynes mewn 'cyflwr critigol' bythefnos wedi gwrthdrawiad dau gar

13/01/2025
A465

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i ddynes gael ei chludo i'r ysbyty mewn "cyflwr critigol" yn dilyn gwrthdrawiad ym Mlaenau Gwent.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Audi du a Vauxhall arian ar yr A465 rhwng Tredegar a Merthyr Tudful toc wedi 00.40 ddydd Sul, 29 Rhagfyr.

Fe gafodd gyrrwr y Vauxhall, dynes 29 oed o Flaenau Gwent, ei chludo i'r ysbyty lle mae’n parhau mewn "cyflwr critigol".

Yn dilyn y gwrthdrawiad fe gafodd gyrrwr yr Audi, dyn 34 oed o Abertawe, hefyd ei gludo i'r ysbyty i gael triniaeth.

Fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o nifer o droseddau, gan gynnwys achosi anaf trwy yrru'n beryglus a gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam o gwmpas adeg y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2400427214.

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.