Newyddion S4C

Dirwy 'pum munud' yn ysgogi diweddaru cod ymddygiad cwmnïau parcio

13/01/2025
Dirwy parcio

Mae cwmnïau parcio preifat wedi dweud y byddan nhw yn diweddaru eu cod ymddygiad ar ôl i gamau cyfreithiol gael eu cymryd yn erbyn gyrrwr am iddi gymryd mwy na phum munud i dalu am barcio.

Bydd dau gorff sydd yn cynrychioli'r sector yn sefydlu panel i adolygu'r cod. Y bwriad yw sicrhau ei fod yn "amddiffyn gyrwyr sydd go iawn yn cael trafferth talu yn brydlon" wrth gyrraedd maes parcio.

Ym mis Tachwedd y llynedd fe ddywedodd y BBC fod cwmni parcio preifat wedi mynd a Rosey Hudson i lys er mwyn hawlio £1,906 yn ôl ganddi. Roedd hi'n gyson yn cymryd mwy na phum munud i dalu am barcio o achos signal ffon gwael.

Mae cwmnïau parcio preifat wedi cael eu cyhuddo o ddefnyddio arwyddion cymysglyd a chamarweiniol, codi costau afresymol ac am fod yn ymosodol wrth hawlio arian yn ôl.

Fe ddangosodd ffigyrau ym mis Tachwedd bod gyrwyr ym Mhrydain ar gyfartaledd yn cael mwy na 41,000 o docynnau parcio'r dydd gan gwmnïau preifat.

Cafodd 3.8 miliwn o docynnau eu rhoi rhwng Gorffennaf a Medi 2024.

Yn 2019 cafodd bil a fyddai wedi cael sêl bendith y llywodraeth ar gyfer cod ymddygiad i gwmnïau parcio ei lunio. Fe gafodd y bil gydsyniad brenhinol. Ond yna yn 2022 cafodd ei dynnu yn ôl ar ôl her gyfreithiol gan y cwmnïau parcio.

Ym mis Mehefin fe aeth y diwydiant ati i lunio cod ymddygiad eu hunain a bydd y panel newydd yn goruchwylio'r cod yma. 

Mae cyflwyno'r panel newydd yn dangos bod cwmnïau parcio preifat "o ddifri am godi safonau ond hefyd yn gwneud newidiadau pendant i'r cod pan mae yna faterion yn codi" meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Barcio Prydain. 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.