Tanau Los Angeles: Cymraes yn ystyried dod adref i Gymru i fyw
Mae Cymraes sydd yn byw yn Los Angeles yn dweud ei bod yn ystyried dod yn ôl adref i fyw ar ôl iddi orfod ffoi o'i chartref yn sgil y tanau gwyllt yn yr ardal.
Mae 24 o bobl wedi cael eu lladd oherwydd y tanau ac o leiaf 16 yn parhau ar goll.
Dywedodd Lynwen Hughes-Boatman, sydd yn byw yn Eton ei bod wedi bwriadu dod yn ôl i Gymru i fyw oherwydd bod ei theulu yma.
Ond nawr mae'n meddwl dychwelyd yn gynt.
"Fi wir yn meddwl dod adref. Os mae’n cymryd naw mis neu flwyddyn i’r ardal fod yn saff, fi ddim moyn mynd yn ôl i’r ardal os nad oes dŵr clir, neu pŵer neu nwy yn y tŷ i allu byw," meddai wrth siarad gyda'r BBC ddydd Llun.
“Mae’r tŷ yn frwnt ofnadwy gyda llwch ym mhobman, ond mae’n sefyll.
“Does dim pŵer, dim dŵr glan, dim nwy… bydd hi’n cymryd rhwng naw mis a blwyddyn i’r tai sydd wedi cael eu llosgi i gael eu glanhau…felly pwy a ŵyr pryd fyddai’n gallu mynd adref i fyw.
“Mae siwd cyment o bobl yn y gymuned heb dai i fynd yn ôl i, felly dwi’n lwcus.
“Dwi’n nabod 31 o bobl sydd wedi colli tai... ac mae 72,000 o dai a infastructure wedi mynd."
Mae rhagolygon o wyntoedd cryfion yn bygwth dinistr pellach yn yr ardal.
Mae dau o’r tanau yn parhau i fod heb eu rheoli, ac mae lefel y dŵr sydd ei angen yn her i’r gwasanaethau brys.
Y gred yw mai tân Palisades, sy’n ardal ar lan y môr rhwng ardaloedd Malibu a Santa Monica, ydy’r mwyaf dinistriol yn hanes LA.
Dywedodd Lynwen bod pawb yn chwilio am lety dros dro, a bod neb yn gwybod beth fydd yn digwydd:
"Ond gyda’r gwynt sy’n dod heno a fory - pwy a ŵyr sawl tŷ arall fydd yn llosgi."