Llwybr newydd i gystadlu yn Ewrop i dimau Cymru'r EFL?
Mae cynllun a fyddai’n agor y drws i glybiau pêl-droed Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd gystadlu yn Ewrop dan faner Cymru gam yn agosach at gael ei wireddu.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CPDC) wedi rhyddhau rhagor o fanylion am y cynllun, sy'n cael ei alw'n Prosiect Cymru.
Byddai’r cynllun yn caniatáu i bedwar clwb pêl-droed mwyaf y wlad i gymryd rhan yng Nghwpan y Gynghrair yng Nghymru yn erbyn timoedd yn y system Gymreig.
Ar hyn o bryd maent yn cystadlu dan system cynghreiriau EFL Lloegr.
Yna, mi fyddai enillwyr y gystadleuaeth yn sicrhau eu lle yn un o gystadlaethau UEFA, gan gynrychioli Cymru yn Ewrop.
Mae’r Gymdeithas yn dweud y gallai’r cynllun godi £3 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn i ddatblygu “pêl-droed ar bob lefel yng Nghymru”. Byddai hefyd yn codi proffil y Cymru Premier JD, sef yr haen uchaf o bêl-droed yn y wlad.
Cefnogaeth unfrydol sydd i'r cynnig gan y pedwar clwb sydd yn chwarae yn Lloegr, yn ogystal â holl glybiau’r Cymru Premier.
Mae CBDC wedi cynnal trafodaethau gydag UEFA, Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens AS.
Mae’r penderfyniad nawr yn nwylo Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA), sydd yn penderfynu pa gystadlaethau all clybiau sy’n chwarae yn Lloegr gymryd rhan ynddynt.
Mae'r FA wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod yn trafod y cynllun "gyda rhanddeiliaid".
Yn ôl Noel Mooney, Prif Weithredwr CPDC, byddai’r cynllun yn “datgloi potensial llawn pêl-droed yng Nghymru”, pe bai’n cael ei gymeradwyo gan yr FA.
“Mi fydd hyn dod â phêl-droed Cymreig ynghyd, gwella’r gêm ar bob lefel a chyflawni buddion cymdeithasol sylweddol ar draws Cymru, gan wneud ein clybiau a chymunedau yn fwy cynaliadwy.”
Ariannu
Mae’r gymdeithas yn dweud fod yna wahaniaeth mewn ariannu ar gyfer cyfleusterau pêl-droed ar lawr gwlad. Ers 2022, mae Sefydliad Pêl-droed Cymru wedi derbyn £17 miliwn i fuddsoddi mewn cyfleusterau. £327 miliwn yw'r swm mae Sefydliad Pêl-droed Lloegr wedi derbyn.
Yn ôl y model ariannu sydd wedi’i gynnig gan y gymdeithas, byddai'r pedwar clwb yn rhoi unrhyw elw fydden nhw yn ennill drwy gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth UEFA tuag at ariannu pêl-droed yng Nghymru. Byddai hyn yn gyfatebol gyda rheolau cyllidebol awdurdodau pêl-droed Lloegr.
Mi fyddai’r arian yna yn cael ei ddosbarthu drwy’r Cymru Premier JD a’r Adran Premier Genero, sef yr uwch gynghrair i fenywod, ac yn ariannu cyfleusterau ar lawr gwlad, meddai Mr Mooney.
“Mi fydd yn cynhyrchu refeniw ychwanegol sylweddol drwy gystadleuaeth Cwpan y Gynghrair, gyda phresenoldeb y pedwar clwb uchaf o Gymru sydd yn chwarae ym mhyramid pêl-droed Lloegr,” ychwanegodd.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda'r FA am ymateb.