Newyddion S4C

Estyn i gynnal arolygiad wrth i'r defnydd o AI 'gynyddu'

13/01/2025
Plant ar gyfrifiaduron

Bydd Estyn yn cynnal arolygiad i ddeall yr “heriau a’r manteision” o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) ym myd addysg. 

Daw hyn wrth i’r defnydd ohono “gynyddu" mewn ysgolion ar hyd Cymru. 

Yn ôl Prif Arolygydd Estyn, mae AI yn cael ei ddefnyddio fwy gan athrawon a disgyblion a hynny “ar raddfa gyflym iawn." 

Fe fydd yr arolygiaeth, sy’n gyfrifol am addysg a hyfforddiant yng Nghymru, nawr yn cynnal arolygiad er mwyn deall sut y mae AI yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion ar hyn o bryd. 

Daw hyn wrth i Brif Weinidog Llywodraeth y DU, Keir Starmer, gyhoeddi cynlluniau newydd ddydd Llun a fydd yn ceisio sefydlu’r Deyrnas Unedig fel “arweinwyr” yn y maes AI. 

“Mewn byd o gystadleuaeth ffyrnig, allwn ni ddim sefyll ar yr ochr heb weithredu,” meddai Syr Keir wrth gyhoeddi’r cynllun.

“Mae'n rhaid i ni weithredu’n gynnar er mwyn ennill y ras ryngwladol,” ychwanegodd.

'Trawsnewid y sector addysg'

Dywedodd Owen Evans, sef Prif Arolygydd Estyn y gallai AI “trawsnewid addysg os caiff ei ddefnyddio'n gyfrifol.” 

Bydd Estyn yn cynnal arolwg ymhlith ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn gofyn am eu barn a'u profiad. Byddant wedyn yn holi athrawon yn fwy manwl.  

Mae disgwyl i adroddiadau ynghylch yr hyn maen nhw wedi darganfod gael eu cyhoeddi yn yr haf. 

Mae hefyd disgwyl i gynllun Llywodraeth y DU roi pob un o’r 50 o argymhellion gan Matt Clifford, sef un o gewri’r byd technoleg, ar waith. 

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Ysgrifennydd Gwyddoniaeth Llywodraeth y DU, Peter Kyle, ofyn i Mr Clifford lunio cynllun a fyddai’n dod o hyd i gyfleoedd i fanteisio ar AI. 

Canllawiau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer ysgolion sydd yn ystyried dechrau defnyddio AI. 

Dywedodd Mr Evans ei fod yn “falch iawn” o lansio’r broses hon gan ddweud bod yna “gyfleoedd go iawn” i drawsnewid y sector addysg.

Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle mae AI yn cynnig "posibiliadau mawr i ysgolion". Dywedodd bod hi'n bwysig bod cymorth ar gael i ysgolion i ddelio gyda'r newidiadau technoleg sydd yn digwydd. 

"Trwy gael dealltwriaeth o'r arferion da sy'n cael eu defnyddio eisoes, gallwn helpu ysgolion i fanteisio’n gyfrifol ar y cyfleoedd y gallai AI eu cynnig, a pharhau i flaenoriaethu diogelwch a lles staff a dysgwyr," meddai. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.