
Bro Morgannwg: Diffyg hygyrchedd mewn gorsaf drenau yn 'annheg' ac yn 'gwahaniaethu'
Mae trigolion ym Mro Morgannwg yn dweud eu bod yn wynebu “gwahaniaethu” gan nad oes modd i bawb gael mynediad at orsaf drenau lleol.
Mae ymgyrch wedi’i lansio er mwyn gosod lifftiau yng ngorsaf trên Eastbrook yn Ninas Powys wedi i nifer o bobl anabl, bobl hŷn a rhieni ddweud nad oes modd iddyn nhw gyrraedd un o’r platfformau yno.
Dim ond drwy gerdded tua milltir o gwmpas yr orsaf y gallai pobl gyrraedd y platfform – ond mae nifer wedi dweud nad yw’n bosib iddyn nhw gerdded pellter o’r fath.

Mae aelod o Gyngor Cymuned Dinas Powys bellach wedi dweud ei fod yn “annheg” fod cyn lleied o orsafoedd trenau yng Nghymru wedi derbyn cyllid penodol gan adran trafnidiaeth Llywodraeth y DU (DfT) er mwyn gwella hygyrchedd yno.
Dywedodd y Cynghorydd Malcolm Phillips fod hyd at 50 o orsafoedd yn Lloegr wedi cael cyllid o gymharu â 'phedair’ yng Nghymru.
Mae’n dweud mai yn Lloegr mae un o’r pedair o Gymru sydd wedi derbyn cyllid ‘Access for All’ wedi'i leoli.
“Pan wnaethon ni gwestiynu pa bedwar gorsaf drenau cafodd eu rhestru, roeddent yng Nghastell-nedd, Shotton, Rhiwabon a Whitchurch yn Shropshire.
“Sut allant restru gorsaf yn Lloegr yn un o'r pedair o Gymru sy’n cael eu hariannu? Dyw e ddim yn deg,” meddai.

'Gwahaniaeth enfawr'
Mae trigolion bellach wedi lansio ymgyrch er mwyn sicrhau gwell hygyrchedd yn yr orsaf trên.
Dywedodd Sean Carson, 81 (prif lun), bod yn rhaid iddo yrru yn hytrach na theithio ar y trên pe bai iddo fynd i’r Barri. Mae’n byw ag arthritis difrifol a methu croesi’r bont er mwyn cyrraedd platfform arall yr orsaf.
Mae’n dweud ei fod yn gallu siarad ar ran pob person hŷn yn yr ardal “sydd yn wynebu’r un broblem.”
Mae Lauren Davies yn fam ac yn gwarchod plant yn yr ardal. Mae hi’n dweud y byddai gosod lifft yno yn gwneud “gwahaniaeth enfawr” iddi a theuluoedd eraill.

Dywedodd yr AS Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan ei bod yn cefnogi’r ymgyrch ac yn galw am well hygyrchedd i bawb.
“Mae yna esiampl fan hyn sydd yn dangos fod 'na broblem gyda’r orsaf,” meddai.

'Problem i nifer o deithwyr'
Fe gafodd trigolion Dinas Powys gwybod nad oedd cais am gyllid i orsaf trên Eastbrook yn llwyddiannus ym mis Mai 2024, wedi i DfT gyhoeddi rhestr o’r 50 llwyddiannus.
Dywedodd llefarydd ar ran DfT: “Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i wella hygyrchedd gorsafoedd drenau Prydain, ac rydym yn cydnabod bod yna fanteision cymdeithasol ac economaidd gwerthfawr i gymunedau.”
Cwmni Network Rail gyflwynodd y cais i DfT gan mai nhw sy’n berchen ar orsaf drenau Eastbrook.
Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail mai mynd i’r afael â phroblemau hygyrchedd yw un o brif amcanion y diwydiant trafnidiaeth ar hyn o bryd.
“Mae hygyrchedd yn broblem i nifer fawr o’m teithwyr,” meddai.