Newyddion S4C

Nigel Farage yn 'fwy poblogaidd nag arweinwyr pleidiau eraill yn y Senedd’

12/01/2025
Nigel Farage Senedd Cymru

Mae Nigel Farage yn fwy poblogaidd ‘nag arweinwyr pleidiau eraill yn y Senedd’ yn ôl llefarydd Cymreig y blaid Reform UK.

Gyda’r blaid yn cymryd rhan yn etholiadau’r Senedd yn ddiweddarach eleni, mae Oliver Lewis yn dweud ei fod yn bosib y byddent yn ennill digon o seti i ffurfio llywodraeth ym Mae Caerdydd.

Yn ystod cynhadledd y blaid fis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth arweinydd Reform UK, Nigel Farage, ddarogan y byddent yn ennill digon o seti i fod yr wrthblaid fwyaf i’r llywodraeth Lafur, sydd wedi bod mewn grym ers cychwyn datganoli yng Nghymru yn 1999.

Ond mae’r uchelgais ymhlith aelodau Reform wedi tyfu fwy byth, yn ôl Mr Lewis.

“Mae yna gymaint o newid wedi bod ers y gynhadledd fis Tachwedd,” meddai wrth siarad ar raglen Politics Wales.

Image
Oliver Lewis
Oliver Lewis (Llun: BBC/Politics Wales)

“Gan ystyried fod 50,000 o bobl wedi ymuno â’n mudiad drwy gydol fis Rhagfyr, dwi’n credu ei fod yn ddigon bosib y gallwn ni ffurfio llywodraeth yng Nghymru.

“A gyda’r gwaith dwi a fy nghyd-weithwyr Reform yn ei wneud, nid dim ond bod yn wrthblaid yr ydym yn meddwl amdano bellach, ond am ffurfio llywodraeth.”

Dim arweinydd yng Nghmru

Dywedodd Mr Lewis na fyddai arweinydd yn cael ei benodi cyn yr etholiadau, ond y byddai presenoldeb Mr Farage, sydd yn Aelod Seneddol yn San Steffan, yn amlwg yn ystod yr ymgyrch.

“Bydd Nigel yn chwarae rôl fawr iawn yn ymgyrch y Senedd," meddai.

"Mae’r arolygon ry’n ni wedi eu cynnal yn dangos ei boblogrwydd. Mae e llawer iawn yn fwy poblogaidd ‘nag arweinwyr y pleidiau eraill yng Nghymru.

“Ein hegwyddor ar hyn o bryd yw unwaith rydym wedi sefydlu grŵp o aelodau yn y Senedd, pan mae yna 20, 30 neu gobeithio 40 o aelodau Reform yno, fe fyddwn ni’n dewis ein harweinydd ar ddiwrnod un.”

Fe ychwanegodd: “Wrth gwrs, ni fydd Nigel yn rhedeg am y Senedd. Ond mi rydyn ni’n blaid undebol, ac mae’n rhaid cofio am yr UK yn Reform UK.

“Felly mae’n gwbl addas fod gan ein hymgeisydd am Brif Weinidog y DU yn 2028 neu 2029 bresenoldeb mawr yn etholiadau datganoledig yng Nghymru a’r Alban.”

'Dim cynllun'

Dywedodd yr Aelod Senedd Geidwadol dros Brycheiniog a Sir Faesyfed, James Evans, bod y ffaith nad oedd gan Reform UK arweinydd yn dangos “diffyg cynllun”.

“Rydw i’n cydnabod bod y bygythiad gan Reform yn un gwirioneddol.

Image
James Evans
James Evans AS (Llun: BBC/Politics Wales)

"Ond wrth wrando ar Oliver Lewis, mae’n dangos nad oes ganddyn nhw gynllun credadwy o sut maen nhw’n mynd i wella gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.

"Maen nhw’n dweud bod nhw eisiau bod y blaid fwyaf ar ôl yr etholiad Senedd nesaf, ond does neb yng Nghymru yn gwybod pwy fyddai’r Prif Weinidog.

“Does neb yn gwybod sut y byddent yn gwella’r gwasanaeth iechyd, sut i wella safonau addysg, a’r economi.

"Allan nhw ddweud popeth maen nhw eisiau ond heb gynllun ac arweinydd credadwy, dy’n nhw ddim yn mynd i unrhyw le.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.