Newyddion S4C

Teyrngedau i swyddog heddlu a pherson a fu farw mewn gwrthdrawiad

12/01/2025
Rosie Prior/ Ryan Welford

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i swyddog heddlu a fu farw ar ôl cael ei tharo gan lori wrth ymateb i wrthdrawiad arall ar ochr y ffordd. 

Roedd Cwnstabl Heddlu Gogledd Sir Efrog, Rosie Prior yn sefyll wrth ochr ffordd yr A19 ym mhentref Bagby, ger Thirsk, pan gafodd hi a dau berson arall eu taro gan gerbyd HGV toc cyn 09.00 bore Sadwrn. 

Bu farw’r Cwnstabl Prior yn ogystal â Ryan Welford, 41, oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad cyntaf, yn y fan a’r lle. 

Fe gafodd bachgen yn ei arddegau oedd yn teithio yn y car gyda Mr Welford ei daro gan y lori hefyd. Mae’n parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr “difrifol ond sefydlog.” 

Mewn teyrnged fore Sul, dywedodd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr eu bod yn cynnig eu “cydymdeimlad dwysaf” i deulu a ffrindiau Cwnstabl Rosie Prior a Ryan Welford. 

Dywedodd y Cadeirydd dros dro, Tiff Lynch: “Gyda galar a thristwch aruthrol, mae Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr yn cynnig ein cydymdeimlad dwysaf i deulu, ffrindiau a chydweithwyr y ddau berson, gan gynnwys y Cwnstabl Rosie Prior, a fu farw mewn gwrthdrawiad trasig ar yr A19. 

“Rydym yn cydweithio gyda Ffederasiwn Heddlu Gogledd Swydd Efrog er mwyn cynnig pob math o gefnogaeth posib allwn i anwyliaid Cwnstabl Prior.” 

Mewn teyrnged i Gwnstabl Rosie Prior, dywedodd ei theulu ei bod yn “fam, gwraig, merch, chwaer a modryb gariadus” a fydd “colled fawr ar ei hôl.”

Dywedodd teulu Mr Welford: “Roedd Ryan yn dad, gŵr, mab a brawd gweithgar. Bydd ei deulu a’i ffrindiau yn ei golli yn fawr.” 

Fe gafodd gyrrwr y lori HGV, sef dyn 65 oed o Berwick-upon-Tweed, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus. 

Mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad, medd Heddlu Gogledd Swydd Efrog.

Lluniau: Heddlu Gogledd Swydd Efrog/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.