'Trio crio llai' byddai nod Cymraes pe bai'n cymryd rhan yn The Traitors eto
Mae’r Gymraes Gymraeg oedd yn rhan o gyfres The Traitors eleni wedi dweud y byddai’n “trio crio llai” pe bai iddi gymryd rhan yn y gyfres eto.
Roedd yn rhaid i Elen Wyn o bentref Llanfair-yng-nghornwy yn Ynys Môn adael y gyfres ar ôl ychydig o benodau wedi i nifer o'r cystadleuwyr eraill credu ei bod hi'n un o'r bradwyr.
Ar ôl colli’r bleidlais yn y castell Albanaidd, fe wnaeth y Gymraes datgelu ei bod hi ymhlith y ffyddloniaid (faithful) mewn gwirionedd – a hithau wedi bod yn ei dagrau.
Datgelodd hynny yn Gymraeg gyntaf drwy ddweud, "Dw i yn ffyddlon. I am a faithful".
Mae bellach wedi dweud y byddai’n ceisio “crio llai” pe bai iddi gymryd rhan yn y gyfres eto gan fod hynny wedi gwneud iddi “sefyll allan.”
“Wrth gwrs y byswn i’n trio crio llai.
“Dwi'n meddwl neshi neud gormod o stwff i sefyll allan.
“O’n i’n siarad lot am y ffaith bod fi’n Gymraeg, siarad am lot am y busnes genod fel ‘traitors’ ag oedd o reit amlwg pan o’n i’n crio.
“Heb drio o’n i jyst yn sefyll allan so oedd o jyst yn rhywbeth i bobl drafod rili.”
Dafydd Iwan ar The Traitors?
Mae’r ogleddwraig, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, eisoes wedi trafod yr heriau o gymryd rhan mewn cyfres uniaith Saesneg.
Ac mae hefyd wedi dweud mai rhoi llwyfan i’r Gymraeg oedd ei nod wrth gymryd rhan.
Wrth siarad â Hansh, dywedodd ei bod yn credu mai’r cerddor a gwleidydd, Dafydd Iwan, sydd ymhlith y Cymry a fyddai’n perfformio’n dda ar gyfres The Traitors.
“Pwy yng Nghymru sa’n cwestiynu Dafydd Iwan fel traitor? Neb, neb.
“Dyna’r rheswm y byse fo’n neud bradwr anhygoel, 'sa neb yn cwestiynu’r peth,” meddai.