Cyngor yn cyflwyno polisi i fynd i'r afael â'r 'lefel uchel' o blant sy'n dod i'r ysgol mewn cewynnau
Cyngor yn cyflwyno polisi i fynd i'r afael â'r 'lefel uchel' o blant sy'n dod i'r ysgol mewn cewynnau
Her sy'n wynebu pob rhiant yw dysgu eu plentyn i ddefnyddio'r tŷ bach.
Weithiau, dydy hynny heb ddigwydd cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol.
Yn ôl un Cyngor, mae o rŵan yn digwydd yn llawer rhy aml.
Ym Mlaenau Gwent, bydd disgwyl i rieni ddod i'r ysgol os oes angen newid eu plant yn hytrach na gadael hynny i staff.
Croesawu'r polisi newydd mae undebau addysg.
"Yn gyffredinol, 'dan ni'n croesawu unrhyw fath o bolisi sy'n rhoi sicrwydd i aelodau staff mewn ysgol ac yn gwneud o'n glir cyfrifoldeb pwy ydy newid clytiau ac ati.
"Maen nhw wedi hyfforddi'n broffesiynol fel athrawon.
"Dyna'r hyn sydd angen iddyn nhw fedru eu gwneud, addysgu'r plant.
"Mae angen bod gan blant y sgiliau angenrheidiol wrth gyrraedd ysgol."
Dywedodd y Cyngor eu bod nhw wedi cyflwyno'r polisi oherwydd lefel uchel iawn o blant yn dod i'r ysgol mewn cewynnau.
Dywed mae cyfrifoldeb rhiant neu warchodwr ddylai fod i ddysgu plentyn i ddefnyddio'r tŷ bach.
Nad yw'n berthnasol i'r rhai ag angen meddygol wedi'i gydnabod.
Mae'r undebau yn awyddus i gynghorau eraill ddilyn yr un trywydd.
Be ydy'r farn tu allan i gatiau ysgol yng Nghaerdydd?
"Gallai weld pam y bysa'n anodd i athrawon i newid lot o blant ond dw i'n gweld bod e'n gallu bod yn anodd i rieni hefyd."
"Efallai bod fi'n hen ffasiwn ond dylai rhieni baratoi'r plant i ddod i'r ysgol heb ishe nappies."
"Annog pobl i ddysgu plant i fynd i'r tŷ bach cyn mynd i'r ysgol yw pwynt y polisi a ddim gorfodi rhieni i ddod mewn."
Yn ôl elusennau, mae'r broblem ar gynnydd ers Covid gydag un o bob pedwar plentyn yn dechrau'r ysgol heb ddysgu i ddefnyddio'r tŷ bach yn annibynnol eto.
Nid bai'r rhieni ydy hynny, medden nhw.
"How d'you know where to get support and how do you know the right time?
"If you're not getting support from the services it's understandable why parents are not confident and flounder.
"We need to give them support and not blame or stigmatise them."
A phawb yn gytun mai'r bwriad ydy canlyniadau sydd o les i bawb yn rhieni, athrawon ac yn bwysicaf oll, y plant.