Gohirio dau gwest yn Sir Benfro o achos diffyg cyflenwad trydan
Cafodd dau gwest gwahanol i ddwy farwolaeth drasig yn y gorllewin eu gohirio dydd Gwener gan nad oedd cyflenwad trydan yn yr adeilad.
Roedd cwestau i farwolaethau Aaron Jones, 38 oed, o Lanpumsaint, a fu farw ar 23 Rhagfyr, a Sophia Keleman o Leigh, yn ardal Manceinion, a fu farw ar 3 Ionawr i fod i gael eu cynnal yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd, Sir Benfro.
Ar ôl cryn oedi fe wnaeth swyddogion wneud y penderfyniad o ohirio'r cwestau tan yr wythnos nesaf gan nad oedd cyflenwad trydan i redge systemau technoleg gwybodaeth IT.
Bu farw Aaron Jones ar ôl cael ei daro gan gar tra'r oedd yn cerdded ar ffordd wledig gyda'i gi ychydig cyn y Nadolig.
Roedd yn cerdded ger capel Caersalem.ym mhentref Llanpumsaint cyn y gwrthdrawiad ar 23 Rhagfyr.
Ddiwrnod yn ddiweddarach cafodd dyn 27 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, o beidio â stopio wedi gwrthdrawiad ac o fethu ag adrodd fod gwrthdrawiad wedi digwydd.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach.
Bu farw Sophia Keleman o'i hanafiadau yn yr ysbyty ar 3 Ionawr, ddiwrnod wedi gwrthdrawiad ar lawr gwaelod maes parcio aml-lawr yn Ninbych-y-pysgod.
Mae Flaviu Naghi, 33 oed o Wigan, wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, a gyrru heb yswiriant na thrwydded, ar ôl iddo gael ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad.
Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ar ddydd Sadwrn 4 Ionawr.
Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 7 Chwefror.