Dyn wnaeth ddysgu Cymraeg yn Llanbed yn dysgu'r iaith yn Japan
Ar ôl dysgu’r Gymraeg ym Mhrifysgol Llanbed yn 1992, mae Takeshi Koike bellach yn dysgu Cymraeg ei hun i drigolion Japan.
Ers dychwelyd i'r wlad, mae Takeshi wedi dechrau dysgu Cymraeg i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Tokyo.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd ei fod yn dysgu'r Gymraeg i fyfyrwyr fel rhan o’i fodiwl, 'Cymru: ei diwylliant a'i hiaith'.
Ar gyfer ei flwyddyn yn astudio tramor, aeth i Brifysgol Llanbed ac fel rhan o’i gwrs dysgodd yr iaith Gymraeg.
'Llawer o Gymru yn byw yn Japan'
Pan ddychwelodd i Japan, sylweddolodd fod nifer o Gymry yn byw yn y wlad a daeth yn ymwybodol o Gymdeithas Dewi Sant yn Tokyo.
"Cwrddais â dyn o Abertawe a dechreuon ni ddysgu Cymraeg i bobl mewn caffis, ysgolion, unrhyw le yn Tokyo," meddai.
Bellach mae’n dysgu 28 o fyfyrwyr ar ei fodiwl ym Mhrifysgol Tokyo.
Bu un o fyfyrwyr Takeshi ar ymweliad â Phrydain i ddysgu Saesneg ac yna ymweld â Chymru gan sylweddoli pa mor fyw yw'r iaith yng Nghymru.
Mewn e-bost at Takeshi, dywedodd y myfyriwr "nawr dwi'n gweld yr iaith Gymraeg yn fyw, dwi'n deall pam [fod Takeshi mor frwdfrydig dros yr iaith]".
Mae Takeshi yn hapus i allu trosglwyddo’r iaith i’w fyfyrwyr. “Wrth ddarllen yr ebost [gan y myfyriwr], teimlais yn falch," meddai.
'Allwedd diwylliant yw'r iaith'
Credai Takeshi fod "rhaid ymweld â Chymru i ddeall rhinwedd y diwylliant" a bod siarad Cymraeg wrth ymweld â’r wlad yn gwneud y daith yn fwy "cyfoethog".
Ar hyn o bryd mae'n cydweithio ar nifer o brosiectau rhwng Cymru a Japan gan gynnwys gweithio gyda dyn o Japan sydd yng Nghaerdydd i gynhyrchu taith rhithiol o Gymru.
Hefyd, mae Takeshi yn gweithio ar gynnwys ar-lein wrth wneud clipiau i ddysgu sut mae ynganu llythrennau'r wyddor. Gobeithiai gwneud mwy o glipiau i ddysgu Cymraeg i bobl ar draws y byd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi 2025 yn flwyddyn i ddathlu cysylltiadau Cymru â Japan gan gynnal nifer o weithgareddau yn y ddwy wlad yn ystod y flwyddyn.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1876620671268114634
Yn ystod lansiad y dathliad yng Nghaerdydd ddydd Iau, canodd Eluned Morgan anthem Japan i groesawu Llysgennad Japan i’r Deyrnas Unedig i Gymru.
Ddydd Mawrth, cyhoeddwyd fideo o lysgennad Japan i'r Deyrnas Unedig, Hiroshi Suzuki, yn canu Mae Hen Wlad fy Nhadau cyn ei ymweliad â Chymru sydd wedi denu llawer o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.