'Dydw i ddim yn siŵr': Joe Allen i ymddeol ar ddiwedd y tymor?
Mae chwaraewr canol cae Cymru ac Abertawe Joe Allen wedi dweud ei fod yn bosib y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y tymor.
Ers dychwelyd i Abertawe yn 2022, mae Allen wedi profi cyfnodau anodd gydag anafiadau sydd wedi ei orfodi i golli nifer o gemau.
Mewn cyfweliad gyda BBC Match of the Day Wales dywedodd Allen, sydd yn 34, bod ymddeol yn rhywbeth sydd ar ei feddwl.
"Yn bersonol dwi'n meddwl amdano yn aml, dwi'n siŵr bod pob un chwaraewr wedi gwneud yr un peth ar yr adeg yma yn eu gyrfa," meddai.
"Beth sydd yn mynd i ddigwydd? Allai ddim dweud wrthoch chi. Dwi'n siŵr fe fydd sgwrs rhwng y clwb a minnau rhywbryd, siŵr o fod yn agosach at ddiwedd y tymor.
"Mae'n ddibynnol ar sut mae pethau'n mynd dros y misoedd nesaf. Os allai aros yn ffit a helpu'r tîm i berfformio, mae'n bosib y gallai barhau i chwarae.
"Heb fod yn rhy sinigaidd, os oes unrhyw anafiadau neu dydw i ddim yn perfformio, fe allai pethau fynd i gyfeiriad gwahanol."
Anafiadau
Trwy gydol ei yrfa mae Allen wedi dioddef gyda nifer o anafiadau.
Dechreuodd yr anafiadau effeithio ar ei funudau ar y cae am y tro cyntaf yn 2009, ac ers hynny mae'r problemau wedi parhau tra'n chwarae i Lerpwl a Stoke hefyd.
Ym mis Chwefror 2023, fe wnaeth Allen ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, ond fe ddychwelodd i'r garfan ym mis Hydref 2024 gyda Craig Bellamy wrth y llyw.
Fe wnaeth Allen dychwelyd i'r cae ddydd Sadwrn diwethaf am y tro cyntaf ers dechrau mis Rhagfyr, ar ôl dioddef anaf i'w goes.
Sgoriodd yn hwyr i sicrhau pwynt i'r Elyrch, ac fe wnaeth e fwynhau'r profiad o fod allan ar y cae unwaith eto.
"Gwych i fod 'nôl ar y cae. Roeddwn i efo anaf bach rhwystredig, dim byd difrifol," meddai.
"Yn anffodus gyda chymaint o gemau, dwi'n colli allan yn fwy nag yr ydw i'n disgwyl.
"Dwi'n edrych ymlaen at fod yn ôl yn y garfan ac allan ar y cae. Roeddwn i wedi aros yn ffit am sbel felly daeth yr anaf o nunlle.
"Weithiau dyna sy'n digwydd, a does dim eglurhad amlwg pam ei fod yn digwydd. Ond croesi bysedd erbyn nawr a diwedd y tymor allai aros yn ffit."
Prif lun: Asiantaeth Huw Evans