Newyddion S4C

10 o bobl wedi marw wrth i danau gwyllt barhau i ledu drwy Los Angeles

Tan yn La

Mae 10 o bobl bellach wedi eu lladd wrth i danau gwyllt barhau i ledu drwy ardaloedd Los Angeles.

Mae mwy na 1,000 o adeiladau wedi'u dinistrio wrth i chwe thân losgi yn y ddinas yng Nghaliffornia a'r cyffiniau.

Y gred yw mai tân Palisades, sy’n lledu ar lan y môr rhwng ardaloedd Malibu a Santa Monica, ydy’r fwyaf dinistriol yn hanes LA.

Mae'r LAPD yn dweud bod dyn wedi cael ei arestio brynhawn Iau ar amheuaeth o geisio cynnau tân yn fwriadol yn ardal Woodland Hills, ble mae’r tân gwyllt mwyaf diweddar yno, Kenneth, yn parhau i ledu. 

Roedd trigolion lleol wedi cael gafael ar y dyn a’i atal rhag gweithredu nes i’r heddlu ei arestio, medd adroddiadau yn y cyfryngau lleol. 

Fe ddechreuodd tân Kenneth i’r gogledd o dân Palisades brynhawn ddydd Iau gan beryglu cartrefi ger Calabasas a Hidden Hills. 

Y gred yw bod tân Kenneth wedi’i gynnau’n fwriadol ac mae unigolyn yn cael ei gadw yn y ddalfa, medd yr LAPD.

Tai wedi 'diflannu'

Mae sawl cartref bellach wedi’i ddinistrio’n llwyr yn dilyn tanau gwyllt LA, ac mae rhestr yr enwogion sydd ymhlith y rheiny a gafodd eu heffeithio yn parhau i dyfu. 

Yn eu plith mae’r actor byd enwog o Bort Talbot, Syr Anthony Hopkins. Fe gafodd ei gartref yn ardal y Pacific Palisades ei ddinistrio, gyda lluniau yn y Daily Mail yn dangos gweddillion ei dy wedi’i losgi.

Mae tai'r sêr Hollywood John Goodman, Billy Crystal, Anna Faris a Eugene Levy hefyd ymhlith y tai sydd wedi “diflannu.” 

Dywedodd Paris Hilton ei bod hi hefyd wedi colli ei thŷ yn Malibu. 

Y gred yw bod cartrefi’r actorion Tom Hanks, Reese Witherspoon, Michael Keaton, Ben Affleck a Matt Damon hefyd wedi cael eu heffeithio gan danau’r ardal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.