Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn cynnal cynhadledd i 'ddod ag aelodau ynghyd'
Bydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn cynnal eu cynhadledd amaeth a seremoni wobrwyo flynyddol ddydd Sadwrn.
Unwaith eto eleni, bydd CFfI Cymru cynnal Cynhadledd Amaeth a Gwobrau Amaeth, a’r tro yma fe fydd y gynhadledd ar Fferm Rosedew, Llanilltud Fawr.
Dywedodd Dominic Hampson-Smith, cadeirydd Pwyllgor Materion Gwledig CFfI wrth Newyddion S4C: “Fel pwyllgor rydym yn teimlo ei fod yn ffordd wych o ddod â’n haelodau ynghyd i drafod a dysgu safbwyntiau eraill gan arweinwyr yn y diwydiant,"
Testun y gynhadledd eleni fydd ‘Mentro ar Lwyddiant’, a bydd pump o siaradwyr o ddiwydiannau gwahanol yn rhoi eu mewnbwn ar y pwnc.
Dywedodd Dominic: “Rydym bob amser yn dewis thema sy’n gweddu i hinsawdd bresennol amaethyddiaeth i’r gorau y gallwn ni.”
Drwy wneud hyn, maent yn “sicrhau ei bod yn ddeniadol ac yn berthnasol i’n haelodau,” meddai.
Fel rhan o’r gynhadledd eleni, bydd y Noson Wobrwyo Amaeth yn cael ei chynnal am yr ail dro.
Dywedodd Dominic bod y penwythnos wedi “dod yn uchafbwynt i galendr y CFfI.”
Mae 12 aelod o’r ffermwyr ifanc wedi eu henwebu ar gyfer chwe gwobr, a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y noson.
“Mae’n gyfle gwych i arddangos y gorau o’n haelodau ac i ddangos y dalent ddatblygol sydd gan amaethyddiaeth i’w chynnig.” meddai.
Y chwe gwobr fydd yn cael ei chyflwyno fydd:
- Cynhyrchydd Stoc y Flwyddyn
- Gwobr Arallgyfeiriad Gorau
- Gwobr Pencampwr Gwledig
- Gwobr Rheoli Glaswelltir Gorau
- Gwobr Stocmon Llaeth Cynaliadwy
- Pencampwr Iechyd Meddwl
Bydd cyfle hefyd i’r aelodau gael mynd ar daith fferm o amgylch Fferm Pancross ym Morgannwg.