Ceredigion: Cyngor cymuned yn galw am dai i Gymry yn unig
Mae cyngor cymuned lleol wedi galw am ddatblygiad tai newydd i gael ei neilltuo i bobol o Gymru yn unig.
Gobaith y datblygwr yw troi pentref gwyliau Bythynnod Parc Teifi ym Mhontrhydfendigaid yn stad o dai.
Fe fyddai yn cynnwys 10 o dai a pum fflat un ystafell wely a fyddai yn unedau fforddiadwy.
Mae’r cyngor cymuned lleol, Ystrad Fflur, wedi cefnogi’r cais ar yr amod y byddai’r bobl sy’n byw yn y tai wedi’u geni yng Nghymru ac yn “weithwyr allweddol.”
Tra bod disgwyl i’r cynllun gael ei gymeradwyo, dywedodd swyddog y cyngor sir yn ei adroddiad cyn y cyfarfod y dylid gwrthod y cymal Cymry yn unig yn y cais cynllunio.
“O ran y sylwadau a dderbyniwyd oddi wrth Gyngor Cymuned Ystrad Fflur, byddai cymal o’r fath ar gyfer tai ar y farchnad agored yn amhriodol,” meddai.
“Fodd bynnag byddai angen i’r rhai sy’n gobeithio meddiannu’r unedau fforddiadwy fodloni meini prawf tai’r awdurdod lleol, ac mae cael eich geni’n lleol neu fod yn weithiwr allweddol yn rhan o’r meini prawf hyn.”
‘Ddim yn ddigonol’
Daw’r cais gan Jacob Hughes, sef perchennog Gwesty Morgans, Abertawe, ac fe fydd yn cael ei drafod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ceredigion ar 15 Ionawr.
Dywed asiantaeth JMS Planning and Development, mewn datganiad o gefnogaeth, y byddai ymddangosiad y gyrchfan wyliau, sydd dafliad carreg oddi wrth dafarn y Llew Coch, yn aros yr un fath, heblaw am ychydig o waith ffensio ac ambell i le parcio unigol.
“Mae’r dystiolaeth gefnogol a gyflwynwyd gyda’r cais hwn yn dangos nad yw rheoli Parc Teifi, fel y mae, fel cyrchfan gwyliau yn unig yn gynaliadwy,” meddai’r cais.
“Dros y pedair blynedd ddiwethaf, dim ond un tro y buodd yr holl gabannau gwyliau’n llawn. Roedd hynny adeg Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn 2022.
“Nid yw’r ddarpariaeth ar gyfer grwpiau mawr yn ddigonol ar y safle nac yn y pentref. Gyda diffyg llefydd i fynd iddyn nhw gyda’r nos, mae grwpiau mawr gan amlaf yn mynd am y dinasoedd a’r trefi mawr, neu gyrchfannau gwyliau mawr megis Bluestone a Center Parcs.
“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod Parc Teifi wedi cael ei hysbysebu’n eang,” meddai’r cais.
Serch hynny, dyw’r unedau ddim yn cael eu llenwi yn rheolaidd nac yn ennill digon o incwm, ychwanegodd.
Mae’r busnes wedi bod ar ei golled dros y tair blynedd diwethaf - gyda chostau’n llawer uwch o gymharu ag enillion, meddai.