Tîm pêl-droed menywod Cymru yn dychwelyd i Abertawe a Wrecsam
Bydd tîm pêl-droed menywod Cymru yn dychwelyd i Abertawe a Wrecsam dros y misoedd nesaf fel rhan o ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd.
Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Sweden yn Wrecsam ar 25 Chwefror cyn chwarae'r Eidal yn Abertawe ar 3 Mehefin.
Fe fydd yna hefyd gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Denmarc ar 4 Ebrill.
Dywedodd yr hyfforddwr Rhian Wilkinson eu bod nhw am “roi cyfle i'n cefnogwyr ledled y wlad i gefnogi a dathlu'r tîm" wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf mewn pencampwriaeth ryngwladol.
Bydd tîm Rhian Wilkinson yn cystadlu yn erbyn goreuon Ewrop ar ôl sicrhau dyrchafiad i Gynghrair A, yn dilyn llwyddiant y dîm i cyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop - EURO 2025 - am y tro cyntaf yn eu hanes.
Fe wnaeth Cymru chwarae yn Stōk Cae Ras Wrecsam diwethaf ym mis Ebrill y llynedd ar gyfer gêm gyntaf Rhian Wilkinson wrth y llyw, gyda buddugoliaeth 4-0 yn erbyn Croatia.
Y tro diwethaf wnaeth Cymru chwarae yn Stadiwm Swansea.com Abertawe oedd yn Rhagfyr 2023; fe wnaeth y gêm ddenu'r dorf uchaf am gêm y tu allan i Gaerdydd y bryd hynny.
Dywedodd Rhian Wilkinson: “Bydd chwarae yn Wrecsam, Abertawe a Caerdydd yn rhoi'r cyfle perffaith i ni wneud hynny wrth i ni edrych ymlaen at wynebu gwrthwynebwyr anodd ond cyffrous fel rhan o ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd.
“Ni’n hynod o gyffrous i weld y Wal Goch yn troi fyny yn eu niferoedd ar gyfer y gemau mawr hyn."
Y gemau
Yr Eidal v Cymru - Dydd Gwener 21 Chwefror - Stadiwm Brianteo, Monza (dyddiad i'w gadarnhau)
Cymru v Sweden - Dydd Mawrth 25 Chwefror - Stōk Cae Ras, Wrecsam - 19.15
Cymru v Denmarc - Dydd Gwener 4 Ebrill - Stadiwm Dinas Caerdydd - 19.15
Sweden v Cymru - Dydd Mawrth 8 Ebrill - Stadiwm Gamla Ullevi, Gothenburg (dyddiad i'w gadarnhau)
Denmarc v Cymru - Dydd Gwener 30 Mai - Stadiwm Odense, Odense (dyddiad i'w gadarnhau)
Cymru v Yr Eidal - Dydd Mawrth 3 Mehefin - Stadiwm Swansea.com (dyddiad i'w gadarnhau)