Cyhoeddi cynlluniau i gyfyngu ar gwmnïau sy'n codi prisiau tocynnau
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau newydd i gyfyngu ar gwmnïau sy'n gwerthu tocynnau ymlaen am brisiau uwch.
Roedd beirniadaeth y llynedd o gost tocynnau i gigiau newydd Oasis, gan gynnwys eu gig gyntaf ers ail-ffurfio yn Stadiwm Principality ym mis Mehefin.
Roedd tocynnau i’r gigiau wedi cynyddu o £148 i £355 yn yr oriau cyntaf wrth i bobl barhau i giwio amdanyn nhw ar-lein.
Bydd y llywodraeth yn ymgynghori ar y mesurau canlynol:
· Rhoi cyfyngiad o 30% ar unrhyw gynnydd mewn pris tocynnau pan maen nhw’n cael eu gwerthu ymlaen
· Cyfyngu ar faint o docynnau mae cwmnïau yn cael eu prynu
Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Lisa Nandy bod y “cyfle i weld eich hoff gerddorion neu dîm chwaraeon yn fyw yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn ei fwynhau ac mae pawb yn haeddu cael tocynnau am bris teg.
“Ond ers gormod o amser mae touts wedi bod yn prynu tocynnau a’u hailwerthu am brisiau hynod uchel.
“Dylai’r arian sy’n cael ei wario ar docynnau yn mynd yn ôl i’n sector digwyddiadau byw anhygoel, yn hytrach nag i bocedi busnesau barus.”
'Rheolau llymach'
Mae tocynnau fel arfer yn cynyddu yn eu pris fwy na 50% wrth iddyn nhw gael eu gwerthu ymlaen gan gwmnïau, yn ôl yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA).
Mae ymchwiliad gan Safonau Masnach wedi datgelu tystiolaeth bod tocynnau’n cael eu hailwerthu am hyd at chwe gwaith eu cost wreiddiol.
Mae ymchwil gan Virgin Media O2 yn awgrymu bod cwmnïau sy’n gwerthu tocynnau ymlaen am brisau uwch yn costio £145 miliwn ychwanegol y flwyddyn i’r rheini sy’n mynychu gigiau.
Dywedodd prif weithredwr UK Music, Tom Kiehl: “Mae UK Music yn croesawu’r symudiad hwn i gefnogi’r rheini sy’n mwynhau cerddoriaeth a’r diwydiant cerddoriaeth.
“Rydym am weld diwedd cap pris clir sy’n golygu mai dim ond o dan system deg a rhesymol y gellir ailwerthu tocynnau.
“Mae angen rheolaethau llawer llymach ar y farchnad ailwerthu.”